Jac Morgan

Oddi ar Wicipedia
Jac Morgan
Ganwyd21 Ionawr 2000 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auCwmtwrch RFC, Amman United RFC, Y Scarlets, Clwb Rygbi Aberafan, Wales national under-18 rugby union team, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed, Y Gweilch, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Safleblaenasgellwr, Wythwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol o Gymro yw Jac Morgan (ganwyd 21 Ionawr 2000). Mae Morgan yn chwarae yn y rheng ôl. Ers 2021 mae'n chwarae i'r Gweilch.[1][2]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed Morgan yn Sgeti, Abertawe ac fe'i magwyd ym Mrynaman. Aeth i Ysgol Dyffryn Aman.[3] Rhoddodd y gorau i brentisiaeth peirianneg fecanyddol er mwyn dilyn gyrfa broffesiynol yn chwarae rygbi'r undeb.[4]

Gyrfa clwb[golygu | golygu cod]

Cododd Morgan drwy academi’r Scarlets a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y gêm Challenge Cup gyda Gwyddelod Llundain ym mis Tachwedd 2019. Sgoriodd Morgan ei gais proffesiynol cyntaf mewn gêm a gollwyd yn erbyn Ulster yn y Pro 14.[5]

Ar ôl dychwelyd o anaf i’w ben-glin ym mis Chwefror, croesodd Morgan y linell am ddau gais mewn gêm gyfartal yn erbyn Benetton, cyn gwneud 25 tacl i helpu’r Scarlets hawlio buddugoliaeth hollbwysig dros Gaeredin. O ganlyniad i hyn cafodd Morgan ei ethol yn Chwaraewr y Mis i'r Scarlets ar gyfer mis Chwefror.[6]

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddwyd y byddai Morgan yn ymuno â thîm y Gweilch, ar ôl i’w gytundeb ddod i ben.[7]

Dechreuodd ei yrfa yn y Gweilch yn wych, gan dderbyn gwobr gŵr y gêm yn eu buddugoliaeth 18-10 dros Munster ar 23 Hydref 2021.[8] Ni chafodd ei ddewis i chwarae dros Gymru yng nghyfres brawf yr Hydref, er gwaethaf cydnabyddiaeth gan y wasg ac arbenigwyr fel ei gilydd.[9]

Cafodd Morgan ei enwi’n ddyn y gêm ar 20 Ionawr 2023, gan sgorio cais wedi 88 munud wrth i’r Gweilch guro Leicester Tigers yn Welford Road, gan sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Pencampwyr 2022–23.[10]

Gall Morgan chwarae ar yr ochr ddall, rhif wyth, a blaenasgellwr ochr agored.[4] Mae'n gymharol fach o'i gymharu â'r mwyafrif,[11] ond nid pob un,[12] o'r chwaraewyr rhyngwladol gorau yn y safleoedd hyn.

Gyrfa ryngwladol[golygu | golygu cod]

Ym Mhencampwriaeth Dan 20 y Chwe Gwlad 2019-20 bu’n gapten ar Gymru[13] a chyflawnodd fwy o adfeddiannu nag unrhyw chwaraewr arall yn y twrnamaint hwn.[14] Cafodd ei alw i garfan hŷn Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2022.[15]

Gwnaeth Morgan ei ymddangosiad cyntaf dros dîm hŷn Cymru ar 12 Chwefror 2022 yn y fuddugoliaeth 20-17 yn erbyn yr Alban.[16]

Mewn penderfyniad dadleuol cafodd Morgan ei ollwng gan hyfforddwr Cymru Wayne Pivac, cyn eu taith 2022 i Dde Affrica.[17]

Yn sgil perfformiadau cyson i’r Gweilch cafodd ei alw’n ôl i garfan Cymru ar gyfer gemau rygbi’r undeb rhyngwladol diwedd 2022. Sgoriodd Morgan bedwar cais mewn dwy gêm, gan ennill clod gan y wasg er gwaethaf cyfres wael i'r tîm.[18]

Cadwodd Morgan ei le yng ngharfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad 2023.[19] Dangosodd ei allu amryddawn yn gynnar yn y twrnamaint, gan ddechrau’r gêm gyntaf yn erbyn Iwerddon fel blaenasgellwr ochr dall, cyn symud i rif wyth yn y gêm ganlynol yn erbyn yr Alban.[20][21]

Ceisiau rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Cais Gwrthwynebydd Lleoliad Stadiwm Cystadleuaeth Dyddiad Canlyniad
1  Georgia Caerdydd, Cymru Stadiwm y Mileniwm 2022 Gemau Rhyngwladol yr Hydref Tachwedd 19, 2022 Colled
2
3  Awstralia Caerdydd, Cymru Stadiwm y Mileniwm 2022 Gemau Rhyngwladol yr Hydref Tachwedd 26, 2022 Colled
4

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Scarlets Academy". scarlets.wales (yn Saesneg). 5 Ionawr 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-12. Cyrchwyd 5 Ionawr 2020.
  2. "Jac Morgan". itsrugby.co.uk (yn Saesneg). 5 Ionawr 2020.
  3. "Amman Valley flanker to start for Wales in Six Nations opener". South Wales Guardian (yn Saesneg). 2023-01-31. Cyrchwyd 2023-08-03.
  4. 4.0 4.1 Orders, Mark (16 Tachwedd 2020). "The 'unbelievable' performance from a young Welsh rugby machine". WalesOnline (yn Saesneg).
  5. "Ulster rack up bonus point over Scarlets in game of two halves at Kingspan". Belfasttelegraph (yn Saesneg).
  6. "Jac voted Scarlets player of the month for February". Scarlets Rugby.
  7. "Ospreys confirm Morgan signing". BBC Sport (yn Saesneg).
  8. "Amman Valley man Jac delighted to be man of the match against Munster". South Wales Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-23.
  9. James, Ben (2021-10-14). "Jac Morgan and Tommy Reffell told they don't suit Wales' style of play". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-23.
  10. "Ospreys stun Leicester in dramatic fashion - Welsh Rugby Union". Welsh Rugby Union | Wales & Regions (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-23.
  11. e.g. Sam Cane, Tom Curry, Sam Underhill, Jerome Kaino
  12. e.g. Hamish Watson
  13. "Under-20s Six Nations: Wales 7-17 Italy". www.bbc.co.uk (yn Saesneg). BBC. 31 Ionawr 2020. Cyrchwyd 10 Ebrill 2020. Scarlets flanker Jac Morgan captained Wales Under-20s against Italy (picture caption)
  14. "Rising Stars - Welsh Wrecking Ball, Jac Morgan". www.ultimaterugby.com.
  15. "Dan Biggar: Wales name Lions fly-half as captain for 2022 Six Nations" (yn Saesneg). BBC. 18 Ionawr 2022. Cyrchwyd 3 Chwefror 2022.
  16. "Biggar leads Wales to win over Scotland". BBC Sport (yn Saesneg).
  17. "Ospreys surprised by Morgan omission". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-12-20.
  18. Orders, Mark (2022-11-26). "Wales player ratings as Jac a 'one-man wrecking machine' but others disappoint". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-12-20.
  19. "Owens captains new 37-man Wales squad - Welsh Rugby Union". Welsh Rugby Union | Wales & Regions (yn Saesneg). 2023-01-17. Cyrchwyd 2023-01-23.
  20. "Ireland cruise to Six Nations win over Wales". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-12.
  21. "Scotland blow away Wales to end Gatland hoodoo". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-12.