Wythwr (rygbi)

Oddi ar Wicipedia
Safleoedd Rygbi'r Undeb

Blaenwyr

Cefnwyr

Yr wythwr (rhif 8) mewn rygbi'r undeb yw'r blaenwr cefn mewn sgrym, ac felly y blaenwr sydd mewn sefyllfa i reoli'r bêl gyda'i draed a'i phasio yn ôl i'r mewnwr. Gall yr wythwr hefyd ddewis codi'r bêl ei hun a'i rhedeg.

Mae angen cyfuniad o gryfder a chyflymdra i'r safle. Yn aml, mae wythwyr yn dal, ac yn medru ennill y bêl yng nghefn y llinell. Gall fod yn safle dda i gapten y tîm, er enghraifft yr wythwr Ryan Jones yw capten presennol Cymru.

Ymysg wythwyr enwog y gorffennol mae Mervyn Davies (Cymru), Morne du Plessis (De Affrica), Hennie Muller (De Affrica) a Brian Lochore (Seland Newydd).