Isolda Dychauk

Oddi ar Wicipedia
Isolda Dychauk
Ganwyd4 Chwefror 1993 Edit this on Wikidata
Surgut Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethactor, actor ffilm Edit this on Wikidata

Actores o'r Almaen ydy Isolda Dychauk (ganwyd 4 Chwefror 1993) sydd a'i theulu'n tarddu o Rwsia lle'i ganed.[1]

Ganwyd Isolda Dychauk yn 1993 yn Surgut (Gorllewin Siberia) cyn i'r teulu symud i Berlin yn 2002. Mamiaith Isolda yw Rwsieg ac mae'n siarad Almaeneg yn rhugl a hynny heb unrhyw acen Rwsieg. Yn 2003 cychwynodd mewn coleg actio yn Berlin. Gwnaeth ffilm fechan yn 2004, sef Gimme your shoes, gydag Anika Wangard yn cyfarwyddo, ac a ddangoswyd am y tro cyntaf yn Hydref 2009 yng Ngwyl Ffilmiau Fienna.

Yn y gyfres deledu Borgia mae'n chwarae rhan Lucrezia Borgia, merch Rodrigo Borgia (a ddaeth yn ddiweddarach yn Pab Alecsander VI) a chwaraeir gan John Doman. Saethwyd y gyfres gyntaf yn Hydref 2010 hyd at Mai 2011 yn Stiwdios Barrandov, Prag, y Weriniaeth Tsiec. Darlledwyd y drydedd gyfres yn Hydref 2014.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Portrait: Isolda Dychauk" (yn German). zdf.de. 9 Hydref 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-16. Cyrchwyd 2016-06-18.CS1 maint: unrecognized language (link)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]