Pab Alecsander VI

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Alecsander VI
Pope Alexander Vi.jpg
Enw Roderic Llançol i de Borja (Catalaneg); Rodrigo Lanzol y de Borja (Sbaeneg); Rodrigo Borgia (Eidaleg)
Dyrchafwyd yn Bab 11 Awst 1492
Diwedd y Babyddiaeth 18 Awst 1503
Rhagflaenydd Innocentius VIII
Olynydd Pïws III
Ganed 1 Ionawr 1431
Xàtiva, Teyrnas Valencia


Pab oedd Alecsander VI (ganed 1 Ionawr 1431) a deyrnasodd o 11 Awst 1492 hyd ei farwolaeth ar 18 Awst 1503. Fe'i ystyrir yn un o babau mwyaf dadleuol y Dadeni oherwydd ei hoffder o nepotiaeth a'i anniweirdeb rhywiol. Ef oedd yr ail bab o'r teulu Borgia ar ôl ei ewythr Callistus III; daeth enw'r teulu yn ddrwg-enwog am lygredigaeth a thrais yn ystod teyrnasiad Alecsander. Ymhlith ei blant anghyfreithlon oedd Cesare Borgia, ag ysbrydolodd llyfr Niccolò Machiavelli Il Principe ("Y Tywysog"), a Lucrezia Borgia.

Bywyd[golygu]

Ganed Roderic Llançol i de Borja yn Xàtiva, ger Valencia yn Sbaen fodern; ffurf Eidaleg ar yr enw ydy Borgia. Roedd ei ewythr ar ochr ei fam, Alonso de Borja, yn esgob Valencia a gafodd ei ddyrchafu yn hwyrach i statws cardinal, ac fe roddodd ef lwyth o fywoliaethau eglwysig i'w nai.[1] Ym 1456, ar ôl ei astudiaethau ym mhrifysgol Bologna, crëwyd Rodrigo Borgia yn gardinal gan ei ewythr, a oedd bellach wedi'i ethol yn Bab ac yn dwyn yr enw Callistus III. Ym 1457 penodwyd y Cardinal Borgia yn Is-ganghellor y Sedd Sanctaidd, swydd a oedd yn ei wneud yn un o'r cardinaliaid cyfoethocaf.[2] Parhaodd i ddal y swydd hyn drwy deyrnasiadau'r pedwar pab nesaf.[1] Cenhedlodd y cardinal bedwar o blant gyda'i feistres Vannozza dei Cattanei, a oedd o deulu bonedd Rufeinig; eu henwau oedd Giovanni (Juan), Cesare, Lucrezia a Goffredo (Jofré).[3]

Arfbais Alecsander VI

Yn dilyn marwolaeth Innocentius VIII ym 1492, llwyddodd Borgia twy lwgrwobwyaeth i gael ei hun wedi'i ethol yn bab, a cymerodd yr enw Alecsander VI.[1] Defnyddiodd ei safle i sicrhau statws a chyfoeth ei deulu. Penododd ei fab hynaf, Juan, yn Ddug Gandía (yn Sbaen) ac ym 1492 rhoddodd sawl esgobaeth i'w ail fab Cesare. Yn y flwyddyn olynol daeth Cesare ac Alessandro Farnese, mab meistres diweddaraf y pab, Giulia Farnese, yn gardinaliaid. Trefnodd Alecsander briodasau gwleidyddol ar gyfer Lucrezia, a oedd weithiau'n llywodraethu fel rhaglyw pan oedd ei thad i ffwrdd o Rufain. Ym 1497 lladdwyd Juan, ac roedd amheuon mai Cesare oedd wedi trefnu'r llofruddiaeth. Yn y flwyddyn olynol gwadodd Cesare ei deitlau eglwysig a dechreuodd yrfa newydd fel milwr llwyddiannus ym myddin y Pab.

Ym 1493, y flwyddyn ar ôl mordaith Christopher Columbus, chwaraeodd Alecsander ran pwysig yn hanes yr Amerig drwy ddeddfwrio ar ba ardaloedd oedd i'w neilltuo i Sbaen a pha rai i Bortiwgal. Ei brif nod gwleidyddol yn ystod ei deyrnasiaeth oedd sicrhau perchnogaeth y teulu Borgia dros y Wladwriaeth Babyddol a chanolbarth yr Eidal.[2] I dalu am yr ymgyrch hyn llofruddiai Cesare ei elynion gwlediyddol yn yr hen deuluoedd bonedd Rhufeinig a chipio'u tiroedd, a caniatäwyd i gardinaliaethau gael eu prynu gan deuluoedd cyfoethog. Ymhlith prif elynion Alecsander oedd Girolamo Savonarola, mynach a fu'n pregethu i'r Eglwys gael ei diwygio ac a gipiodd awennau Fflorens ym 1494; llosgwyd ef ar y stanc ym 1498. Ym mis Awst 1503 aeth Alecsander a Cesare yn sâl yn sydyn; roeddent naill ai wedi'u gwenwynnu neu wedi dal malaria. Bu farw y pab ar 18 Awst ac fe'i gladdwyd yn sydyn ac anurddasol.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Campbell, Gordon. The Oxford Dictionary of the Renaissance. Rhydychen ac Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Rhydychen. tud. 130–1. 
  2. 2.0 2.1 Kelly, J. N. D. The Oxford Dictionary of Popes. Rhydychen ac Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Rhydychen. tud. 252–4. 
  3.  Murphy, Francis Xavier. Alexander VI. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Ebrill 2014.