Harri Morgan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Harri Morgan

Preifatîr oedd Syr Harri Morgan (tua 1635 i 25 Awst, 1688), a adnabyddir hefyd fel Henry Morgan.

Bywgraffiad[golygu]

Mae'n debyg y ganwyd o yn Llanrhymni, Morgannwg ger Caerdydd, neu ym Mhencarn, Sir Fynwy, ond o leiaf mae'n siwr yr oedd ei deulu yn Gymry. Mab hynaf Robert Morgan yswain o Llanrhymni yn Sir Fynwy ydoedd, er bod rhai yn honni iddo ddod o'r Fenni. Mae llawer o chwedlau am ei fywyd ac mae'r ffeithiau am ei fywyd yn ansicr, ond gwyddys y bu'n fôr-leidr. Roedd awdurdodiad llywodraeth Lloegr (Letter of Marque) ganddo yn ei awdurdod i weithredu fel preifatîr ac fe'i gefnogwyd gan lywodraeth Lloegr yn ei ryfelgyrch yn erbyn Sbaen. Cyrhaeddodd ynys Barbados ym 1655 ar alldaith y danfonodd Oliver Cromwell ef arni i India'r Gorllewin. Yn Barbados, priododd Mary Elizabeth, merch ei ewythr Edward a oedd yn Is-Lywodraethwr yr ynys ar y pryd. Ni chawsant blant.

Mae'r hanesydd a chyd-oeswr Exquemelin yn dweud ei fod e'n gaethwas (indentured servant) yn Barbados ond wrth ystyried ei gysylltiadau teuluol mae'n anhebyg iawn. Daeth Morgan i Jamaica yn 1658. Roedd e'n nai i Edward Morgan, Llywodraethwr Cyffredinol Jamaica a phriododd ei gefnder Mary. Y fo oedd y "Captain Morgan" ac ymunodd â llynges Christopher Myngs yn 1663.

Ers 1663 bu'n hwylio ar hyd arfordir Mecsico, Cuba a Phanama - o dan capten arall ar y dechrau ond wedyn yn gapten ei hun - ac yn ymosod a chipio trefi Sbaeneg. Mae'n enwog am arwain criw o fycaniriaid y Môr Caribî a dianc rhag môr-warchae Maracaibo a osodwyd gan longau rhyfel Sbaen ar ôl brwydr rhwng yr Oxford, llong ryfel o Loegr a Le Cerf Volant, preifatîr o Ffrainc ym 1669. Cipiodd ddinas Portobelo, Panama yn 1668, gyda llynges a byddin o tua 450 o filwyr, a threuliodd ei wŷr 14 diwrnod yn ysbeilio'r ddinas.

Dechreuodd ei ymgyrch enwog yn erbyn Panama, dinas cyfoethocaf India'r Gorllewin, ym 1670. Hwyliodd yno'n arwain mintai mewn 36 llong. Bu'n rhaid iddynt gerdded dros y mynyddoedd a thrwy jyngl er mwyn cyrraedd y ddinas a oedd ar arfordir y Môr Tawel, yn hytrach na'r Môr Caribî. Llwyddodd i gipio'r dref a'i losgi, a dychwelyd ag aur, arian a gemau a channoedd o gaethweision.

Yn y cyfamser roedd Lloegr a Sbaen wedi arwyddo cytundeb heddwch ac oherwydd yr ymosodiad ar Panama fe gafodd ei arestio a'i gludo i Loegr ym 1672. Ond yno newidiodd ei ffawd eto a daeth yn Syr Harri Morgan ym 1674. Dychwelodd i Jamaica y flwyddyn ganlynol i fod yn Is-Lywodraethwr yr ynys, lle y bu farw ar 25 Awst, 1688 a'i gladdu yn Palisadoes dref a diflanodd dan y môr wedi daeargryn 1692.

Wedi 1683 cyhoeddodd Alexandre Exquemelin, ei gyn llawfeddyg, ei lyfr De Americaensche Zee-Roovers (Hanes Morwyr America). Y llyfr lliwgar hwn sy wedi sicrhau ei enw drwg fel morleidr hyd heddiw.

Harri Morgan a Cuba[golygu]

Yn 1667, cafodd gomisiwn gan Modyford iddo ysbeilio arfordir deheuol Cuba ac i ddal ysbeinwyr fel gwystlon o Cuba i amddiffyn Jamaica. Cyrhaeddodd Cuba a 10 llong a 500 dyn, cymerodd ac ysbeiliodd Morgan y ddinas o Puerto Principe Camaguey. Roedd y cynllun gwreiddiol i ymosod ar Hafana ond roedd hyn yn ormod. Gyrrodd stormydd ei llongau i'r lan yn y De, a dihangodd un o'r gwystlon, felly cafodd dinasyddion Puerto Principe amser i ddianc efo'u trysor. Enillodd ddim ond 50,000 o ddarnau wyth. Aethon nhw ymlaen i ysbeilio tref cyfoethocaf y Caribi wedyn sef Porto Bello a chasglu 200,000 o ddarnau wyth.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Terry Breverton, The Book of Welsh Pirates and Buccaneers (2003, Glyndwr Publishing)
  • Cordingley, David (1995). Life Among the Pirates. London: Abacus. ISBN 0-349-11314-9
  • Stephen Tatly. Empire of Blue Water: Henry Morgan and the Pirates Who Rule the Caribbean Waves

Ffilm, teledu a chyfeiriadau eraill[golygu]

Seilir ffilm 1935 Captain Blood, gyda Errol Flynn, ar fywyd Morgan ac roedd yn gymeriad yn y ffilmiau The Black Swan, Forever Amber, Blackbeard the Pirate, Morgan, the Pirate a Pirates of Tortuga.

Yn 2006, cyflwynodd The History Channel rhaglen ddogfen True Caribbean Pirates, amdano.

Mae'r rym "Captain Morgan" yn fyd enwog ac yn wir yn rhif saith yn y byd ymhlith diodydd cadarn. Mae llyfrau, cerddi, caneuon, gemau fideo a ffilmiau amdano erbyn hyn.

Dolenni allanol[golygu]