Edward Morgan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Milwr o Gymro oedd Syr Edward Morgan (c. 1610 – Gorffennaf 1665)[1] a wasanaethodd fel Dirprwy Lywodraethwr Jamaica o 1664 hyd 1665. Roedd yn ewythr i Syr Henry Morgan, ac hefyd roedd ei ferch Mary yn briod i Henry.

Bywyd[golygu]

Ganwyd Edward Morgan yn Llanrhymni, Sir Fynwy ar y pryd, tua'r flwyddyn 1610.[1] Aeth Edward Morgan i'r Almaen fel hurfilwr yn ystod y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, ac yno priododd ferch Maer Lippstadt. Dychwelodd i Brydain a daeth yn Gyrnol i'r Brenhinwyr yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, ond dihangodd i'r Almaen wedi dienyddiad y Brenin Siarl I. Yn sgil yr Adferiad, dychwelodd Edward Morgan unwaith eto i Loegr a chafodd ei benodi'n Ddirprwy Lywodraethwr Jamaica, yn ddirprwy i'r Llywodraethwr Syr Thomas Modyford. Cyrhaeddodd Morgan India'r Gorllewin yn haf 1664.[2]

Ym 1665 datganodd yr Iseldiroedd ryfel yn erbyn Lloegr, Ail Ryfel yr Iseldiroedd a Lloegr. Comisiynodd Modyford i Morgan arwain llu o breifatiriaid i ymosod ar ynysoedd Caribïaidd oedd dan reolaeth yr Iseldirwyr: Sint Eustatius, Saba, Tobago, a Curacao. Roedd y llu yn cynnwys 10 llong a 500 o ddynion, y mwyafrif ohonynt yn "garcharorion diwygiedig", a nifer yn fôr-ladron a dderbynodd bardwn er mwyn galluogi'r cyrch. Bu miwtini gan y dynion cyn i'r daith hyd yn oed gadael Jamaica, ac roedd rhaid cynnig cyfran o'r ysbail iddynt er mwyn eu dofi. Llwyddodd i naw llong gyrraedd Ynys Pinos ond bu anghytuno dros gynllun ymosod Morgan, a wnaeth tair llong ffoi tuag at Virginia. Hwyliodd gweddill y llu i Sint Eustatius, gan gyrraedd ar 23 Gorffennaf 1665. Erbyn hyn roedd Edward Morgan yn hen ddyn ac yn dew, a bu farw o drawiad ar y galon yn ystod y frwydr.[3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Edward Morgan, Lieutenant Governor of Jamaica. geni.com. Adalwyd ar 14 Ionawr 2013.
  2. Breverton, Terry. The Book of Welsh Pirates and Buccaneers (Sain Tathan, Glyndŵr Publishing, 2003), t. 135–6.
  3. Breverton (2003), t. 136.