Sgwrs:Harri Morgan

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Gwrthddweud hanes ei ewythyr[golygu cod]

Cyrhaeddodd ynys Barbados ym 1655 ar alldaith y danfonodd Oliver Cromwell ef arni i India'r Gorllewin. Yn Barbados, priododd Mary Elizabeth, merch ei ewythr Edward a oedd yn Is-Lywodraethwr yr ynys ar y pryd.

Yn ol erthygl Edward Morgan, Is-Lywodraethwr Jamaica ydoedd.

Daeth Morgan i Jamaica yn 1658. Roedd e'n nai i Edward Morgan, Llywodraethwr Cyffredinol Jamaica a phriododd ei gefnder Mary. Y fo oedd y "Captain Morgan" ac ymunodd â llynges Christopher Myngs yn 1663.
  1. Mae'r ffaith ei fod yn nai i Edward wedi ei nodi'n barod.
  2. Ni fu Edward erioed yn Lywodraethwr, mond Is-Lywodraethwr yn ol yr erthygl amdano ar cy nac en.
  3. Hefyd, mae'r 'Y fo' reit ar ol y frawddeg yma'n gallu gwneud iddo ymddangos mai Edward Morgan oedd Captain Morgan (YFMI).--Ben Bore (sgwrs) 15:21, 21 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]
Dwi'n gwybod dim am y ddau - fedri di ei newid neu oes angen gwaith ymchwil pellach? Llywelyn2000 (sgwrs) 11:29, 22 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]
Gwnaf i ei newid i fod yn gyson, ond dw i'n gwybod dim mwy na thithau! Mynd ar gynnwys yr erthyglau eraill yn unig fydda i. --Ben Bore (sgwrs) 11:35, 22 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]