Gwennol y Gofod

Oddi ar Wicipedia
Gwennol y Gofod
Enghraifft o'r canlynolmodel o gerbyd Edit this on Wikidata
Mathawyren-ofod, llongofod cludo pobl, llong ofod ailddefnyddiol Edit this on Wikidata
Màs74,844 cilogram Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Rhan oRhaglen Gwenol y Gofod, taith i'r gofod, Gwennol Ofod Edit this on Wikidata
PerchennogNASA Edit this on Wikidata
Yn cynnwysRS-25, system symudol orbital y wennol ofod, system atal gwres y wennol ofod Edit this on Wikidata
GweithredwrNASA Edit this on Wikidata
GwneuthurwrRockwell International Edit this on Wikidata
Hyd37.24 metr Edit this on Wikidata
Hyd115,263,404 eiliad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Math o long ofod ydy gwennol y gofod neu wennol ofod sy'n medru dianc o ddisgyrchiant y Ddaear a dychwelyd yn ôl. Bathwyd y term Cymraeg, am y gair Saesneg space shuttle, gan Owain Owain.[1]

Mantais y Wennol Ofod o'i chymharu â rocedi lansio cynharach a fyddai yn disgyn i'r ddaear ac felly yn cael eu dinistrio ydy y gellid adennill prif rannau'r Wennol a'u hailddefnyddio. Gellid er enghraifft arbed y cylchynydd neu'r awyren ofod a'r atgyfnerthion roced. Mae nifer o wledydd a sefydliadau, gan gynnwys yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (European Space Agency), Gweriniaeth Pobl Tsieina a Japan wedi cynllunio gwenoliaid gofod, ond yr unig wledydd i lansio roced o'r fath yw'r Unol Daleithiau a Rwsia.

Gwenoliaid gofod America[golygu | golygu cod]

Y wennol ofod Enterprise
Atlantis yn 2011 yng nghanolfan ofod NASA Kennedy, Cape Canaveral

Penderfynodd y sefydliad Americanaidd NASA ddylunio'r wennol ofod wedi i "raglen lleuad" Apollo ddod i ben yn 1972. Lansiwyd y wennol ofod gyntaf, Columbia, ar 12 Ebrill 1981, 20 mlynedd i'r diwrnod ar ôl i'r gofodwr cyntaf, Yuri Gagarin, gael ei lansio. Adeiladodd NASA bump o gerbydau: Columbia, Challenger, Discovery, Atlantis, ac Endeavour. Yn ogystal â bod yn gam ymlaen yn nhermau technolegol, bwriad y wennol ofod oedd bod yn fwy economaidd nac unrhyw raglen arall.

Lansiwyd Columbia yn 1981. Dilynwyd hi gan Challenger yn 1983, Discovery yn 1984 ac Atlantis yn 1985. Yn 1986 dinistrwyd Challenger mewn damwain ac felly fe adeiladwyd Endeavour yn ei lle a lansiwyd hi yn 1992. Yn 2003 dinistriwyd Columbia wrth iddi ddychwelyd yn ôl i'r ddaear. Defnyddiwyd Atlantis am y tro olaf yn Mai 2010. Gwnaeth Discovery ei thaith olaf gan lanio yn ôl ar y ddaear ar 9 Mawrth 2011 a'r Endeavour ar 1 Mehefin 2011.

Ystyriwyd bod yr hen system o rocedi a chapsiwlau gofod (space capsules) yn rhy wastraffus, achos roedd yn angenrheidiol i adeiladu roced a chapsiwl newydd sbon ar gyfer pob taith. Yn y dechreuad, y syniad oedd creu system trafnidiaeth hollol wahanol; buasai pob elfen yn cael eu hail-ddefnyddio. Cyn bo hir, fodd bynnag, roedd toriadau cyllidol wedi gorfodi NASA i newid eu cynllun gwreiddiol. Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae llawer yn gweld y cynllun fel cam yn ôl achos namau yn y cysyniad. Cafodd Challenger a Columbia eu dinistrio mewn damweiniau marwol yn 1986 a 2003, digwyddiadau a wnaeth orfodi NASA i ystyried dychwelyd i'r hen system o gapsiwlau. Bydd y rhaglen Orion yn cyflawni hyn yn y degawd nesaf.

Lansiwyd y daith ofod ddiwethaf (sef taith ofod STS-135) gan yr American Space Shuttle ar yr 8ed o Orffennaf 2011.

Gwenoliaid gofod Rwsia[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Rwsia gynllunio gwennol ofod yn yr 70au cynnar. Y canlyniad oedd y cerbyd Buran, a lansiwyd (heb griw) yn 1988. Cafodd y cerbyd ei reoli o'r ddaear - y tro cyntaf roedd sefydliad wedi llwyddo gwneud hyn gyda gwennol ofod. Achos rhwystrau cyllidol, canslwyd y rhaglen Buran yn 1993 gan Boris Yeltsin a storiwyd y cerbyd, ond wnaeth y cerbyd ddioddef niwed difrifol yn 2002 pan syrthiodd to y storfa. Does yna ddim cynlluniau i adfywio'r rhaglen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]