Gwastraff niwclear

Oddi ar Wicipedia

Mae gwastraff niwclear (neu wastraff ymbelydrol) yn cynnwys deunydd ymbelydrol o wahanol lefelau ac sydd fel arfer yn achosi cancr. Caiff ei greu mewn atomfa ac mae'n isgynnyrch y broses a elwir yn ymasiad niwclear (sef y dull o greu ynni niwclear ar ffurf trydan). Mae'r gwastraff hwn hefyd yn cynnwys elfennau ymbelydrol megis wraniwm neu blwtoniwm allan o fomiau niwclear wedi'u datgomisiynu ac yn boen meddwl i'r gwyddonydd a'r gwleidydd gan nad oes unrhyw ddull dan haul, hyd yma, i'w storio'n saff. Mae rhai diwydiannau nad ydynt yn gysylltiedig â'r diwydiant niwclear hefyd yn cynhyrchu peth gwastraff niwclear a elwir yn "isel" o ran ei ymbelydredd.

Mae'r ymbelydredd yn lleihau dros amser, fel nad ydyw'n beryglus ar ôl rhyw gyfnod, a all olygu ychydig oriau (mewn meddygaeth) neu filoedd o flynyddoedd - mewn deunyddiau lefel uchel ee mae hanner oes Plwtoniwm-244 yn 80 miliwn o flynyddoedd. Yn fyr, ceir tair lefel o radioegniaeth:

  • lefel isel o radioegniaeth: gwastraff a gynhyrchir mewn adweithyddion, diwydiant ac ysbytai; cedwir y gwastraff hwn ar wahân mewn adeiladau pwrpasol, a'u storio am 100 mlynedd in-situ.
  • lefel ganolig: gwastraff o adweithyddion niwclear; cedwir y gwastraff yma gyda tharian o goncrit o'i amgylch neu ei uno mewn lwmp o goncrit neu dar.
  • lefel uchel: claddu'r gwastraff yn ddwfn yn y ddaear (gweler DSD, isod) neu eu gollwng i foroedd dyfnion fel y gwnaeth Lloegr a gwledydd eraill.[1]

Mae gwastraff lefel uchel (GLU) yn cael ei greu gan adweithyddion niwclear ac yn cynnwys cynnyrch yr ymholltiad niwclear ac elfennau fel wraniwm (yr elfennau Transwranig) ac sydd fel arfer yn boeth. Mae GLU yn 95% o holl wastraff niwclear. Caiff 12,000 tunnell fetrig ohono ei greu pob blwyddyn ledled y byd (cymaint â 100 bws deulawr ar ben ei gilydd).[2] Tan yn ddiweddar roedd y ddau adweithydd yn Wylfa 1000-MW yn cynhyrchu tua 27 tunnell o wastraff pob blwyddyn; sy'n dal i gael ei storio yno, heb ei "buro".[3]

Arwydd ger y fynedfa i safle prif adweithyddion niwclear yr UDA yn Hanford.

Yn Unol Daleithiau America, mae dau draean o wastraff niwclear y wlad yn cael ei storio yn Hanford, "the most contaminated nuclear site in the United States"[4][5]

Gwastraff niwclear gwledydd Prydain[golygu | golygu cod]

Ceir dwy orsaf niwclear yng Nghymru: Wylfa a Thrawsfynydd - ill dwy bellach yn ddi-waith, ond yn llawn ymbelydredd. Ceir nifer o orsafoedd tebyg drwy wledydd Prydain lle'r ystyrir crynhoi'r holl wastraff o bob atomfa ac arfau niwclear wedi'u datgomisiynu mewn un lle. Mae Adran Ynni a Newid Hinsawdd Llywodraeth San Steffan yn chwilio am un man i gladdu'r gwastraff hwn, ac yn gofyn i gymunedau gynnig eu hunain. Mae hyn yn cynnwys yr holl wastraff a grewyd mewn gorsafoedd megis Windscale (bellach: Sellafield) sydd wedi eistedd yno, heb ei drin ers y 1960au. Cred yr Adran ei bod yn haws perswadio cymunedau yn yr ardaloedd hynny lle ceir atomfeydd yn barod ee Wylfa a Thrawsfynydd a chynigiant wobr i'r cymunedau hyn ee ysgol newydd, neu swyddi ychwanegol.

Logo newydd Yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol a'r ISO a lansiwyd yn Chwefror 2007.
Y logo cyntaf, a fydd yn parhau i gael ei ddefnyddio.
Y ddwy arwydd a ddefnyddir i rybuddio pobl rhag ymbeldydredd

Yn Nhachwedd 2013 cynhaliwyd pedwar cyfarfod: Llandudno, Penrith (yr Alban), Caerwysg a Llundain i annog siroedd i wahodd storfa niwclear i'w hardal; trefnwyd y cyfarfodydd hyn gan Adran Ynni a Newid Hinsawdd Llywodraeth San Steffan a chwmniau megis y cwmni datgomisiynu niwclear Nuvia a chwmni Carillion. Roedd siroedd Gwynedd, Caer, Amwythig yn bresennol yn y cyfarfod yn Llandudno yn ogystal â chynrychiolaeth o Lerpwl.[6] Yn yr un mis, cyfarfu Gweinidog Cyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru gyda CoRWM, sef y pwyllgor a etholwyd gan Lywodraeth gwledydd Prydain i chwilio am safle pwrpasol.[7] Dywedodd y Gweinidog Alun Davies y byddai Llywodraeth Cymru'n chwarae rhan gadarnhaol mewn trafodaethau ar reoli gwastraff. Ymateb Gareth Clubb ar ran Cyfeillion y Ddaear oedd, "Dydy ni ddim yn credu y dylai Cymru ysgwyddo'r baich am holl wallgofrwydd Llywodraeth Prydain."[8]

Mae'r ymgyrchwyr yn erbyn canoli'r gwastraff yng Nghymru'n cynnwys:

Barn y gwleidyddion

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol wrth y BBC: "Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi niwclear fel rhan o gymysgedd o ddewisiadau ynni carbon isel,"|[9] "Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol bob amser wedi gwrthwynebu cenhedlaeth newydd o bwerdai niwclear," meddai Sian Anne Cliff, un o ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol. Ymateb y Blaid Lafur yng Nghymru oedd: "Mae Llafur Cymru yn parhau i fod yn llwyr gefnogol i adeiladu Wylfa B, fel yr amlinellon ni ym maniffesto Etholiad Cyffredinol 2010." Mae Plaid Cymru'n anelu at "wneud Cymru'n hunan gynhaliol mewn trydan adnewyddol erbyn 2030 ond yn gefnogol i (bŵer) niwclear yng Nghymru lle bod pwerdai'n bodoli eisoes." Mae Jake Griffiths, ymgeisydd y Blaid Werdd yn rhanbarth Canol De Cymru hawlio fod ei blaid yn "llais cryf yn erbyn (ynni) niwclear. Dydy hi ddim yn rhesymegol i gyflwyno pŵer niwclear pellach i Gymru."

Darpariaeth Storio Daearegol[golygu | golygu cod]

Ffotograffau'n ymwneud â Darpariaeth Storio Daearegol
Ceg yr ogof ogleddol storfa Mynydd Yucca; UDA
Ceg yr ogof ogleddol storfa Mynydd Yucca; UDA 
Carreg rybudd yn "Site A/Plot M Disposal Site"; Illinois, UDA
Carreg rybudd yn "Site A/Plot M Disposal Site"; Illinois, UDA 
Safle storio ym Mecsico Newydd
Safle storio ym Mecsico Newydd 
Ymgyrchwyr yn erbyn cloddfa DSD yn Gorleben, yr Almaen.
Ymgyrchwyr yn erbyn cloddfa DSD yn Gorleben, yr Almaen
Gwaith ar y gweill yn: Eurajoki, gorllewin y Ffindir.
Gwaith ar y gweill yn: Eurajoki, gorllewin y Ffindir
Cludo ymbelydredd lefel uchel ar ffyrdd cyhoeddus i storfa yn Nevada, 2007
Cludo ymbelydredd lefel uchel ar ffyrdd cyhoeddus i storfa yn Nevada, 2007 

Y farn gyffredinol ymhlith gwyddonwyr yw mai DSD (Saesneg: Geological Disposal Facility) yw'r ffordd gallaf o ddatrus y broblem enfawr hon naill ai drwy dwll-turio (borehole) neu mewn hen chwarel. Wedi chwe-deg mlynedd o greu gwastraff niwclear, does yr un DSD wedi agor drwy bedwar ban byd.[10][11]

Rhwng 1987 a 2010 tyllwyd ogofâu i Fynydd Yucca, UDA, fel man storio gwastraff lefel uchel ond fe ataliwyd y gwaith yn 2010 am resymau "gwleidyddol yn unig" yn ôl yr awdurdodau. Bwriadwyd cadw holl wastraff yr Unol Daleithiau o fewn y system ogofâu yma yn Nevada.[12]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ministers admit nuclear waste was dumped in sea". The Independent. Llundain. 1997-07-01. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-19. Cyrchwyd 2014-05-11.
  2. [https://web.archive.org/web/20140529085304/http://www.marathonresources.com.au/nuclearwaste.asp Archifwyd 2014-05-29 yn y Peiriant Wayback. Marathon Resources Ltd :: Our Business :: Uranium Industry :: Nuclear Waste
  3. "Radioactive Waste management". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-11. Cyrchwyd 2014-05-11.
  4. Dininny, Shannon (3 Ebrill 2007). "U.S. to Assess the Harm from Hanford". Seattle Post-Intelligencer. Associated Press. Cyrchwyd 29 Ionawr 2007.
  5. Schneider, Keith (28 Chwefror 1989). "Agreement for a Cleanup at Nuclear Site". The New York Times. Cyrchwyd 30 Ionawr 2008.
  6. Golwg; 10 Ebrill; awdur: Iolo Cheung; tudalen 4.
  7. https://www.gov.uk/government/news/corwm-chair-meets-with-welsh-minister Gwefan www.gov.uk;] adalwyd 1 Mai 2014.
  8. Golwg; 10 Ebrill; awdur: Iolo Cheung; tudalen 5.
  9. Gwefan BBC Cymru; adalwyd 11 Mai 2014.
  10. Trevor Findlay (2010). "Nuclear Energy to 2030 and its Implications for Safety, Security and Nonproliferation: Overview" (PDF). Nuclear energy futures project. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-03-07. Cyrchwyd 2014-05-11. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help)
  11. David Biello (29 Gorffennaf 2011). "Presidential Commission Seeks Volunteers to Store U.S. Nuclear Waste". Scientific American.
  12. "Nuclear Waste: Technical, Schedule, and Cost Uncertainties of the Yucca Mountain Repository Project" (PDF). United States General Accounting Office. December 2001. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2008-05-18. Cyrchwyd 2008-05-16. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)