Goleudy'r Moelrhoniaid

Oddi ar Wicipedia
Goleudy'r Moelrhoniaid
Mathgoleudy Edit this on Wikidata
LL-Q9309 (cym)-Calab22-Goleudy'r Moelrhoniaid (Q15278045).wav Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1717 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSkerries Lighthouse With Associated Buildings And Enclosure Walls Edit this on Wikidata
LleoliadCylch-y-Garn Edit this on Wikidata
SirCylch-y-Garn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.42122°N 4.60817°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Goleudy'r Moelrhoniaid yn oleudy ar ynys fwyaf y Moelrhoniaid. Adeiladwr y goleudy oedd William Trench; bu farw ei fab yn ymyl yr ynysoedd, ac adeiladwyd y goleudy erbyn 1717 wedi i William Trench sicrhau patent gan y Frenhines Anne i adeiladu goleudy am rent o £5 y flwyddyn. Bwriad Trench oedd i godi toll o geiniog ar pob llong a dwy geiniog ar pob tunnell o nwyddau oedd yn pasio'r Moelrhoniaid. Methodd Trench a sicrhau fod y llongau yn talu'r tollau a phan fu farw yn 1729 roedd wedi colli ei ffortiwn. Uchder y tŵr yw 23 medr, ac mae’n 36 medr uwchben y môr ar lanw llawn.[1] Erbyn i Trinity House brynu'r ynysoedd am £444,984 ym 1841 roedd y goleudy wedi newid o fod yn llosgi glo i fod yn llosgi olew. Ym 1927 newidiwyd y goleudy i fod yn oleudy trydan ac ym 1987 gadawodd y ceidwad llawn amser olaf wrth i'r goleudy ddod yn gwbwl awtomatig[2].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Trinity House
  2. "From the Skerries to the Smalls, the automation of Welsh lighthouses". BBC.