God Save the Queen
Anthem a geir mewn sawl gwlad, yn arbennig y gwledydd sy'n aelod o'r Gymanwlad, yw "God Save the Queen", neu "God Save the King". Hon yw anthem genedlaethol y Deyrnas Unedig a thiriogaethau tramor Prydain. Mae fersiwn o'r anthem hefyd yn anthem genedlaethol Ynys Norfolk, un o ddwy anthem genedlaethol Ynysoedd Cayman a Seland Newydd (ers 1977) ac anthem brenhinol Canada (ers 1980), Awstralia (ers 1984), Ynys Manaw, Jamaica, Liechtenstein, Tuvalu a Norwy (Gud Sign Vår Konge God). Dyma anthem genedlaethol de facto Lloegr hefyd, er nad oes gan y wlad honno anthem genedlaethol swyddogol, a genir cyn gemau pêl-droed a rygbi rhyngwladol ac ar achlysuron eraill.
Fersiwn safonol y Deyrnas Unedig [golygu]
|
God Save the Queen (fersiwn safonol) |
* Pan mae'r un sy'n teyrnasu yn wrywaidd newidir y geiriau yn y llinell olaf i "with heart and voice to sing/ God Save the King". Newidir hefyd "Scatter Her Enemies" yn "Scatter His Enemies". |
Nid oes fersiwn ddiffinadol o'r geiriau, ond cysidrir y fersiwn â thri phennill i fod yn fersiwn safonol y Deyrnas Unedig. Ymddangosodd y fersiwn hon yn Gentleman's Magazine 1745, ac mewn cyhoeddiadau megis The Book of English Songs: From the Sixteenth to the Nineteenth Century (1851),[1] National Hymns: How They are Written and how They are Not Written (1861),[2] Household Book of Poetry (1882),[3] a Hymns Ancient and Modern, revised version (1982).[4] Mae'r un fersiwn, ond heb yr ail bennill, yn ymddangos yn Scouting for boys (1908),[5] ac ar wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig, "Monarchy Today" website.[6]
Ffynonellau [golygu]
- ↑ Charles Mackay (1851). The Book of English Songs: From the Sixteenth to the Nineteenth Century, tud. 203
- ↑ Richard Grant White (1861). National Hymns: How They are Written and how They are Not Written. Rudd & Carleton, tud. p.42
- ↑ Charles Anderson Dana (1882). Household Book of Poetry, tud. 384
- ↑ Nodyn:Teitl=Hymns Ancient and Modern, Revised Version
- ↑ Robert Baden-Powell (1908). Scouting for Boys, tud. 341
- ↑ Monarchy Today website.