Gŵyl Cerdd Dant

Oddi ar Wicipedia
Gŵyl Cerdd Dant
Enghraifft o'r canlynolgŵyl, gŵyl gerddoriaeth, digwyddiad blynyddol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1948 Edit this on Wikidata
GenreCerdd Dant Edit this on Wikidata
Cantorion Cerdd Dant ger Conwy gan Julius Caesar Ibbetson, 1792

Cynhaliwyd Gŵyl Cerdd Dant gyntaf yn 1947 yn Y Felinheli. Fe ddaw o dan adain y Gymdeithas Cerdd Dant.

Bu'r Ŵyl yn sbardun fawr i dŵf Cerdd Dant fel crefft. Yn ôl Aled Lloyd Davies, awdur, Hud a Hanes Cerdd Dannau, “O’r dyddiad hwnnw y gwelwyd y Gymdeithas yn datblygu, yn tyfu mewn aelodaeth a dylanwad ac yn ehangu gorwelion ei diddordeb."[1]

Tŵf a newid[golygu | golygu cod]

Bu newid mawr mewn cerdd dant yn ystod yr 20g. Ar ddechrau’r ganrif, crefft i unigolion yn unig oedd hi. Yna dechreuwyd ffurfio deuawdau a phartïon bychain. Mentrwyd ymhellach i faes triawdau a phedwarawdau. Yna, o’r 1950au ymlaen fe ymddangosodd corau cerdd dant am y tro cyntaf. Nid oedd pob gŵyl yn cynnwys y gystadleuaeth yn eu rhestr testunau, ac ar y cyfan, creadur prin a chymharol fychan o ran nifer ei aelodau oedd y côr cerdd dant yn y cyfnod hwn.

O’r 1970au ymlaen, fodd bynnag, tyfodd cystadleuaeth y corau i fod yn un o’r rhai mwyaf poblogaidd, ac nid cyd-ddigwyddiad yw mai hwn oedd y cyfnod mwyaf llewyrchus erioed o ran nifer cystadleuwyr a chynulleidfaoedd. Yn yr 1950au, roedd hi’n dal yn bosibl cynnal yr Ŵyl Gerdd Dant mewn neuaddau pentref bychain fel un Penybontfawr, ond bu raid chwilio am lefydd mwy yn fuan iawn. Dechreuodd yr ŵyl gael sylw gan y cyfryngau radio a theledu, ac o’r nawdegau ymlaen bu S4C yn ei darlledu’n flynyddol.[2]

Cystadlaethau[golygu | golygu cod]

Ceir sawl cwpan fel gwobr yn yr Ŵyl Gerdd Dant.[3]

Cwpan Elwyn yr Hendre[golygu | golygu cod]

Mae hwn yn wobr i'r Grŵp Cerdd Dant orau dan 25 oed

Cwpan Ysgol Llanddoged[golygu | golygu cod]

Parti Gwerin Oedran Cynradd

Cwpan Coffa Dewi Mai o Feirion[golygu | golygu cod]

Unawd Cerdd Dant dros 21 oed

Cwpan Coffa Hugh Jones[golygu | golygu cod]

Unawd Telyn Blwyddyn 12 a than 25 oed

Cwpan Ysgol Dyffryn Conwy[golygu | golygu cod]

Deuawd Cerdd Dant Blwyddyn 12 hyd at 21 oed

Cwpan Ysgol Dyffryn Conwy[golygu | golygu cod]

Deuawd Cerdd Dant Blwyddyn 12 hyd at 21 oed

Tarian Goffa Dafydd o Feirion[golygu | golygu cod]

Côr Cerdd Dant Agored

Tarian Goffa Ioan Dwyryd[golygu | golygu cod]

Parti Cerdd Dant Agored

Tarian Huw T Edwards[golygu | golygu cod]

Unawd Telyn Blwyddyn 6 ac iau (Cynradd)

Tlws Beti a Carys Puw[golygu | golygu cod]

Unawd Cerdd Dant Oedran Cynradd

Tlws Coffa Dic Jones[golygu | golygu cod]

I hyfforddwr y Côr Cerdd Dant buddugol

Tlws Coffa Elliw Llwyd Owen[golygu | golygu cod]

Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 7 – 11

Tlws Coffa Gilmor Griffiths[golygu | golygu cod]

Cyfansoddi Cainc Cerdd Dant

Tlws Coffa L. E. Morris[golygu | golygu cod]

Parti Cerdd Dant Oedran Cynradd

Tlws Coffa Lowri Morgan[golygu | golygu cod]

Deuawd Cerdd Dant Blwyddyn 7-11 (Uwchradd)

Tlws Coffa W. H. a Gwen Pugh[golygu | golygu cod]

Parti Cerdd Dant Oedran Uwchradd

Tlws Côr Aelwyd Caerdydd[golygu | golygu cod]

Grŵp Llefaru Agored

Tlws Dafydd a Mairwen Roberts[golygu | golygu cod]

Triawd / Pedwarawd Cerdd Dant

Tlws Selwyn a Neli Jones[golygu | golygu cod]

Parti Gwerin Agored

Tlws Teulu’r Fedw[golygu | golygu cod]

Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 12 hyd at 21 oed

Tlws Yr Herald Gymraeg[golygu | golygu cod]

Unawd Telyn Blwyddyn 7-11 (Uwchradd)

Tlws Ysgol Glanaethwy[golygu | golygu cod]

Parti Gwerin Uwchradd

Dolenni allannol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Hanes Cerdd Dant". Gwefan Cymdeithas Cerdd Dant. Cyrchwyd 17 Ebrill 2024.
  2. "Hanes Cerdd Dant". Gwefan Cymdeithas Cerdd Dant. Cyrchwyd 17 Ebrill 2024.
  3. "Tlysau Parhaol yr Ŵyl". Gwefan Cymdeithas Cerdd Dant. Cyrchwyd 17 Ebrill 2024.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.