Friedrich Dürrenmatt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Friedrich Dürrenmatt
Friedrich duerrenmatt 19890427.jpg

Yr oedd Friedrich Dürrenmatt (Ionawr 5, 1921 - Rhagfyr 14, 1990) yn Awdur iaith Almaeneg a dramodydd. Fe'i anwyd yn Konolfingen, yng Nghanton Emmental rhan o Bern) y fab i Weinidog ac yn wyr i'r gwleidydd, Ulrich Dürrenmatt. Symudodd y teulu i Bern ym 1935. Astudiodd Almaeneg ym Mhrifysgol Zurich tan 1941, ond goffenodd ei radd ym Mhrifysgol Bern. Dechreuodd fel llenor ym 1943. Priododd ar Hydref 11, 1946, i'r actores Lotti Geissler. Ond bu iddi farw ym 1983, ac ailbriododd ym 1984 i actores arall, Charlotte Kerr. Bu farw Rhagfyr 14, 1990 yn 69 oed yn Neuchâtel.

Mae ei ddrama (Der Besuch der alten Dame, 1956) yn fyd enwog a pherfformir ef yn gyson o hyd. Ond mae llawer yn meddwl bod ei brif waith yw y Ffisegwyr (Die Physiker, 1962), sy'n trafod peryglon gwyddoniaeth i'r ddynoliaeth. Yn aml ysgrifennai am Yr Ail Ryfel Byd. Mae ei waith yn amrywio o ddramâu avant-garde i ysgrifennu deifiol. Arwyddair Dürrenmatt oedd: "Does dim diweddglo i'r stori heb dro gwael ynddi". Roedd yn aelod o'r grwp Gruppe Olten.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Es steht geschrieben (1947)
  • Der Blinde (1947)
  • Romulus der Große (Romulus Mawr: Comedi hanesydddol mewn pedwar act, 1950, drama)
  • Der Richter und sein Henker 1952; stori fer)
  • "Der Tunnel" ("The Tunnel", 1952; stori fer)
  • Die Ehe des Herrn Mississippi (Priodas Mr. Mississippi, 1952, drama)
  • Der Verdacht (The Quarry or Suspicion, 1953)
  • "Theaterprobleme" ("Theater Problems", 1954, essay)
  • Der Besuch der alten Dame (The Visit, 1956, drama)
  • Die Panne ("Traps", 1956, stori fer)
  • Das Versprechen: Requiem auf den Kriminalroman (The Pledge: Requiem for the Detective Novel, 1958, stori fer)
  • Die Physiker (The Physicists: A Comedy in Two Acts, 1962, drama)
  • Der Meteor (1966)
  • "Monstervortrag" ("Darlith Mawr ar Gyfraith a Chyfiawnder ", 1969, darlith)
  • "Der Sturz' ("Cipio'r Deyrnas", 1971, stori fer)
  • Achterloo (1982)
  • Justiz (Dienyddio Cyfiawnder, 1985)
  • Der Auftrag (Y Weithred, 1986, stori fer)
  • "Die Schweiz--ein Gefängnis. Rede auf Vaclav Havel" ("Y Swistir - Carchar: Araith dros Vaclav Havel", 1990)

Straeon Dürrenmatt mewn Ffilm[golygu]

  • Es geschah am hellichten Tag (Digwyddodd yng Ngolau'r Dydd 1958), a fersiwn Teledu o 1997
  • Priodas Mr. Mississippi (1961)
  • Der Besuch der alten Dame (1964, fersiwn Cymraeg Ymweliad yr Hen Foneddiges)
  • Once a Greek (1966, Grieche sucht Griechin)
  • Play Strindberg (1969), wedi ei seilio ar "Dawns Angau" gan Strindberg
  • La più bella serata della mia vita (1972, gan Ettore Scola, wedi ei seilio ar 'La Panne')
  • End of the Game (1976), wedi ei seilio ar The Judge and His Hangman, mae Dürrenmatt yn actio yn y fflim hefyd.
  • Deadly Games (1982, Trapp)
  • Cumartesi Cumartesi (1984, Salam, storiau mewn ffilm)
  • Физики (The Physicists) (1988, yn Rwsieg)
  • Визит дамы (The Visit of the Lady) (1989, yn Rwsieg)
  • Hyènes (1992), addasiad gan Djibril Diop Mambéty o Senegal
  • Justiz (1993)
  • The Pledge (2001), wedi ei seilio ar ei nofel Das Versprechen, sydd ei hun wedi ei seilio ar Es geschah am hellichten Tag

Cyfieithiadau i'r Gymraeg[golygu]

  • Yr Adduned (Das Versprechen 1958) gan Friedrich Dürrenmatt, cyfieithwyd gan Robat G Powell. Cyfres yr Academi , Gwasg Gee 1976.
  • Y Twnel (Die Arche) gan Friedrich Dürrenmatt, cyfieithwyd gan Ioan Bowen Reesl. Taliesin cyf 33 t21 , Academi Gymreig. Rhagfyr 1976. Troswyd i ddathlu rhoi Gwobr yr Academi iddo.
  • Ymweliad yr Hen Foneddiges (Der Besuch der Alten Dame 1956) gan Friedrich Dürrenmatt, cyfieithwyd gan John Gwilym Jones a G L Jones. Cyfres Dramâu'r Byd, Gwasg Prifysgol Cymru 1976.

Cyfeiriadau[golygu]

  • Everett M. Ellestad, 'Friedrich Durrenmatt's "Mausefalle" ("Trap Llygoden"),' German Quarterly, 43, 4, 770-779, Nov. 1970.
  • Gerhard P. Knapp, "Friedrich Dürrenmatt: Studien zu seinem Werk," Poesie und Wissenschaft, XXXIII, Lothar Stiehm Verlag, Heidelberg, 1976.
  • Centre Dürrenmatt Neuchâtel
  • National Library Switzerland

Dolenni[golygu]