Frederick Thomas Bidlake

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Frederick Thomas Bidlake
Manylion Personol
Enw Llawn Frederick Thomas Bidlake
Dyddiad geni Ebrill-Mehefin 1867
Dyddiad marw 17 Medi 1933 (66 oed)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Gwybodaeth Tîm
Disgyblaeth Ffordd
Rôl Reidiwr a Gweinyddwr
Golygwyd ddiwethaf ar:
10 Hydref 2007

Seiclwr rasio Seisnig nodweddiadol yn ystod diwedd yr 19eg ganrif oedd Frederick Thomas Bidlake (ganwyd Ebrill-Mehefin 1867 Islington[1] – bu farw 17 Medi 1933[2]), a ddaeth yn weinydd nodweddiadol ym myd rasio yn ddiweddarach yn ei fywyd yn ystod dechrau'r 20fed ganrif. Sefydlwyd gwobr flynyddol anrhydeddus ym myd seiclo Prydeinig, Gwobr Goffa Bidlake, yn ei enw.

Ganwyd Bidlake yn ardal Islington, Llundain, yn fab i John Purdue Bidlake, ysgolfeistr a thiwtor preifat ac arholwr ysgolion, a Phebe West Sharman, athrawes (Governess).[3][4][5][6] Erbyn 1891, roedd yn gweithio fel tiwtor,[7] yn 1901, roedd yn briod ac yn gweithio fel newyddiadurwr ac awdur.[8]

Seiclwr rasio[golygu]

Yn ystod dyddiau cynnar seiclo fel chwaraeon, roedd Bidlake yn ffafrio defydd y treic, enillodd nifer o bencampwriaethau a gosododd recordiau cenedlaethol ar dreic, yn aml gan guro reidwyr beic dwy olwyn yn y broses. Yn 1893, gosododd record newydd treic 24 awr gan deithio dros 410 milltir yn Velodrome Herne Hill, de Llundain. Ar un adeg, deliodd pob record treic cenedlaethol yn gydamserol, o 50 milltir i 24 awr ac amryw o recordiau o le i le yn ogystal a nifer o recordiau ar tandem. Bu Bidlake yn aelod o glwb seiclo North Road, a helpodd drefnu'r Treial Amser cyntaf ar 5 Hydref 1895, pan oedd y National Cyclists' Union wedi gwahardd rasio ar ffyrdd agored.

Gweinyddwr Seiclo[golygu]

Fel gweinyddwr, helpodd Bidlake i sefydlu'r Road Records Association a'r Road Racing Council, a bu'n is-lywydd y Cyclists' Touring Club wrth ochr y llywydd, George Herbert Stancer. Roedd hefyd yn recordiwr-amser o nôd, gan amseru nifer o dreialon amser a cheisiau record o le i le dros gyfnod o 40 mlynedd. Gweinyddodd hefyd fel recordiwr-amser ar gyfer glwb y Royal Aero Club a rasus y Schneider Trophy seaplane yn ystod yr 1930au.

Bu farw yn fuan ar ôl damwain ar 27 Awst 1933, pan drawyd ef oddiar ei feic gan gar ar Barnet Hill, gogledd Llundain. Disgynodd i stâd hanner-ymwybodol a bu farw ar yr 17 Medi.

Cofeb[golygu]

Erbyn hyn, roedd cronfa tysteb wedi ei sefydlu a daeth hwn yn gronfa coffa. Adeiladwyd gardd goffa a cofeb yn Girtford Bridge ar Great North Road ger Sandy, Swydd Bedford, dadorchuddwyd hi ar 23 Medi 1934, fe aeth y balans o'r gronfa i greu gwobr blynyddol, Gwobr Goffa Bidlake, ar gyfer y perfformiad amlycaf neu gyfraniad i wella seiclo yn unrhyw agwedd.

Er hyn, ni adnabyddwyd nifer o gampweithiau gan seiclwyr Prydeinig yn ystod y 1950au agn eu bod yn aelod o'r corff llywodraethu answyddogol, y British League of Racing Cyclists. Rhai digwyddiadau a esgeuluswyd oedd buddugoliaeth cntaf Pydain maen cymal o'r Tour de France gan Brian Robinson yn 1958 a buddugoliaeth Ian Steel yn y Peace Race yn 1952.

Mae enillwyr y wobr wedi cynnwys rhai o'r enwau mwyaf nodweddiadol ym myd siclo Prydeinig gan gynnwys:

Enillodd David Millar y wobr yn 2003, ond cymerwyd y wobr oddiarno yn ddiweddarach wedi iddo gyfaddef defnyddio cyffuriau anghyfreithlon.

Dolenni Allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Mynegai Genedigaethau Cymru a Lloegr, Frederick Thomas Bidlake, Ebrill-Mehefin 1867, ardal Islington, Vol. 1b Tudalen 288
  2. Mynegai Marwolaethau Cymru a Lloegr, Frederick T Bidlake, 66 oed, Gorffennaf-Medi 1933, ardal Camberwell, Vol. 1d Tudalen 642
  3. Cyfrifiad 1871, 318 Essex Road, Islington, Llundain.
  4. Cyfrifiad 1881, 339 Essex Road, Islington, Llundain.
  5. Mynegai Priodasau Cymru a Lloegr, John Purdue Bidlake & Phebe West Sharman, Ebrill-Mehefin 1863, ardal Islington, Vol. 1a Tudalen 647
  6. Cyfrifiad 1861, 148 Windmill Street, Gravesendd, Caint.
  7. Cyfrifiad 1891, Cock Hotel, Epping, Essex.
  8. Cyfrifiad 1901, Kates Cabin, Station Road, Barnet Vale, Swydd Hertford.