George Herbert Stancer

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
George Herbert Stancer
Manylion Personol
Enw Llawn George Herbert Stancer
Dyddiad geni 1867
Dyddiad marw 0 Hydref 1962 (84 oed)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Gwybodaeth Tîm
Disgyblaeth Ffordd
Rôl Reidiwr
Golygwyd ddiwethaf ar:
8 Hydref 2007

Seiclwr rasio Seisnig oedd George Herbert Stancer OBE (ganwyd 17 Ebrill 1878 – Hydref 1962), roedd yn un o seiclwyr rasio mwyaf nodweddiadol yn ystod diwedd yr 19eg ganrif ym Mhrydain, a daeth yn weinydd y Cyclists' Touring Club (CTC) o nôd yn ddiweddarach ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'n cael ei goffa'n flynyddol gan dreial amser ar gyfer ieuenctid (odan 16), sef pencampwriaeth y GHS.

Dyddiau cynnar[golygu]

Ganwyd Stancer ym mhentref Pocklington, 14 milltir i'r dwyrain o Efrog yn Swydd Efrog. Daeth yn aelod o glwb Yorkshire Road Club yn 1898 ac arhosodd gyda'r clwb hyd ei farwolaeth.

Fel ei gyfoeswr a'i ffrind, Frederick Thomas Bidlake, roedd Stancer yn ffafrio treic yn ystod dyddiau cynnar seiclo fel chwaraeon. Curodd Stancer a L.S. Leake record y Road Records Association, Llundain-Brighton ac yn ôl ar dreic tandem yn 1910, gan gyflawn'r daith mewn 5 awr 59 munud a 51 eiliad.

Y gweinyddwr a'r newyddiadurwr[golygu]

Roedd yn lywydd y Tricycle Association o 1944-1950.

Gweithiodd fel newyddiadurwr, yn golygu cyclchgrawn Cycling Weekly am naw mlynedd.

Yn 1920, cymerodd drosodd lywyddiaeth y CTC, ar adeg pan oedd yr aelodaeth wedi i disgyn i tua 8,500. Erbyn iddo ymddeol yn 1945, roedd yr aelodaeth wedi tyfu i tua 50,000.

Gwobrwywyd ef â Gwobr Goffa Bidlake, un o anrhydaddau uchaf seiclo, yn 1943.

Cofeb[golygu]

Wedi ei farwolaeth, sefydlwyd cronfa ymddiriedolaeth yn ei enw, gyda'r bwriad o hybu seiclo ymysg pobl ifanc. Dechreuwyd redeg Bencampwriaeth Treial Amser Ysgolion 10 milltir - ymdopwyd y time trial championship was instituted - mabwyswyd y gystadleuaeth hon yn 1970 gan yr Road Time Trials Council (Cycling Time Trials erbyn heddiw).

Mae reidiau GHS, sef cyfres o reisiau hamdden, yn cael eu hyrwyddo yn flynyddol gan yr 'Yorkshire Cycling Federation' ar ddydd Sul yn agos i'w benblwydd.

Mae sedd goffa ar gyfer Stancer yng ngardd goffa F.T. Bidlake yn Girtford Bridge ar Great North Road ger Sandy, Swydd Bedford. Ar un adeg, Bidlake oedd partner Stancer ar y tandem.

Cyfeiriadau[golygu]


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.