Franz von Papen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Franz Joseph Hermann Michael Maria von Papen zu Köningen (Franz von Papen)
Franz von Papen

Cyfnod yn y swydd
1 Mehefin – 17 Tachwedd 1932
Rhagflaenydd Otto Braun
Olynydd Kurt von Schleicher

Geni 29 Hydref 1879
Marw 2 Mai 1969
Plaid wleidyddol Plaid y Canolwyr (cyn 1932)
Priod Martha von Boch-Galhu
Plant Friedrich, Antoinette, Isabella, Margaret a Stephanie
 Rhybudd! Broom icon.png Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon.
Ewch ati i'w chywiro os y gallwch, neu mi geith ei dileu. Mae'r nodyn hwn yn rhoi'r erthygl yn y categori Tudalennau â phroblemau ieithyddol.

Uchelwr, gwleidydd a diplomat Almaenig a fu'n Ganghellor yr Almaen o dan arweiniad Adolf Hitler yn 1933–1934 oedd Franz Joseph Hermann Michael Maria von Papen zu Köningen (29 Hydref 1879–2 Mai 1969). Bu'n aelod o'r Blaid Gatholig Ganolig tan 1932, a bu'n aelod dylanwadol o Camarilla yr Arlywydd Paul von Hindenburg ar ddiwedd Gweriniaeth Weimar. Credai Papen y gellid reoli Hitler pan fyddai mewn grym ac i raddau helaeth, ef a berswadiodd Hindenburg i anwybyddu ei amheuon a phenodi Hitler yn Ganghellor mewn cabinet nad oedd o dan ddylanwad y Natsïaid. Fodd bynnag, yn fuan iawn gwthiwyd Papen a'i gynghreiriaid i'r naill ochr gan Hitler a gadawodd Papen y llywodraeth ar ôl Noson y Cyllyll Hirion, pan laddwyd rhai o'i gefnogwyr gan y Natsïaid.

Cefndir[golygu]

Cafodd Franz von Papen ei eni i fewn i deulu aristocratiaidd Catholigaidd. Fu fyw Papen a’i teulu yn Werl, Westphalia. Enw ei thad oedd Friedtich von Papen zu Königen (1839 – 1906) ac enw ei fam oedd Anna Laura von Steffens (1852 – 1939). Cafodd Franz von Papen ei addysgu fel swyddog milwrol. Ar ôl cael ei addysgu fel swyddog gweithiodd Papen yn Palas y Kaiser cyn ymuno a’r ‘German General Staff’ yn 1913. Ar ôl hynny mi wnaeth o ymuno a’r adran a oedd yn delio gyda diplomyddiaeth yn Rhagfyr y blwyddyn honno. Trafeiliodd Papen i America fel swyddog milwrol i helpu yr llysgennad Almaenig ar y pryd (Johann Heinrich von Bernstorff). Tra fod o yn America, mi wnaeth o hefyd trafeilio lawr i Mecsico yn 1914 gynnar er mwyn gweld yr effaith cafodd yr chwyldro Mecsicanaidd ar y poblogaeth lleol. Ar ôl fod yn Mecsico, dychwelodd Papen i Washington D.C. ar dechrau’r Rhfel Byd Cyntaf yn Awst 1914.) Yn ystod y Rhyfel Byd tra fod Papen yn Washington D.C. dechraeodd o i ymgysylltu gyda gweithgareddau ysbio. Oherwydd hyn, cafodd Papen ei allforio yn ôl i’r Almaen. Ar y ffordd adref cafodd ei fagiau eu hatafaelu. Pan agorodd yr awdurdodau Americanaidd bagiau papen, gwelodd nhw fod yn y bag oedd yna 126 o stybiau siec yn ei fag. Roedd yr rhain wedi eu ysgrifennu allan i asiantau wahanol Papen. Yn Ebrill 1916, mi wnaeth rheithgor ffederal America gyhoeddi dditiad yn erbyn Papen ar sail y ffaith ei fod o yn blot a oedd yn fynd ar hyd y llinellau o ddinistrio Canal Welland yn Canada. Cafodd y dditiad yma ei codi yn 1932 pan ddaeth o yn canghellor yr Almaen. Yn hwyrach ymlaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd Franz von Papen ei symyd i’r Ffrynt Ddwyreiniol lle wnaeth o gwasanaethu fel swyddog. Hefyd cafodd o’i symyd i Palesteina er mwyn gwasanaethu fel Uwch-Capten yn yr fyddin Otomanaidd. Mi wnaeth Papen hefyd gweithio fel cyfryngwr rhwng yr fyddin Almaenig a’r ‘Gwirfoddolwyr Gwyddelig (wedyn yn eu adbabod fel yr IRA). Ei swyddogaeth yn i gyd o hyn oedd i gwerthu arfau i’r Gwyddelon yn ystod yr Gwrthryfel Ebrill o 1916. Hefyd mi wnaeth o gweithio fe cyfryngwr i’r cenedlaetholwyr Indiaid yn ystod y gynllwyniad Hindŵ-Almaeneg. Ddychwelodd Papen yn ôl i’r Almaen yn 1918 ar diwedd yr Rhyfel.

Blynyddoedd "Rhwng rhyfel"[golygu]

Yn y blynyddoedd rhwng y rhyfel mi wnaeth Papen ymuno gyda’r ‘Plaid Canolig’. Yn y plaid yma mi wnaeth Papen creu darn o’r adain ceidwadol. Roedd yn aelod o llywodraeth Prwsia o 1921 i 1932. Yn etholiad arlywyddol 1925, mi wnaeth Papen synnu ei plaid gan cefnogi yr ymgeisydd adain-dde Paul Hindenburg dros ymgeisydd y canolwyr – Wilhelm Marx. Ar y cyntaf o Mehefin 1932, symudodd Franz von Papen o dinodedd i pwysigrwydd goruchaf pan wnaeth Paul von Hindenburg hyrwyddo Papen i fod yn Canghellor yr Almaen. Yr rheswm cafodd Papen ei penodi fel Canghellor oedd oherwydd fod Kurt von Schleicher wedi dewis y cabinet. Mi wnaeth o hefyd weithio fel is-Ganghellor o dan Adolf Hitler o 1933 i 1934. Roedd Papen yn aelod o cylch agos iawn o cynghorwyr i’r Arlywydd Paul Hindenburg yn y Gwerinaeth Weimar hwyr. Papen oedd yr unigolyn a wnaeth argyhoeddi Hindenburg i gwahodd Hitler i fod yn Canghellor yr Almaen gan feddwl fod fuasent yn gallu eu rheoli ef. Ond, serch hynny cafodd Papen a’r cynghorwyr eraill eu rhoi i’r ochr gan Hitler. Yn y diwedd mi wnaeth Hitler cymryd holl pŵer yr Almaen i ei hyn yn ystod noson y cyllyll hirion. Yn ystod y noson hon cafodd llawer o ffrindiau agos Papen eu ladd ac ymddeolodd Papen o’i gyrfa fel gwleidydd.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Baner GermanyEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Almaenwr neu Almaenes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.