Foel Goch (Glyderau gorllewinol)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Coordinates: 53°08′N 4°03′W / 53.13°N 4.05°W / 53.13; -4.05
Foel-goch
(Y Glyderau)
Foel Goch
Cyfieithiad
Iaith Cymraeg
Testun y llun Foel Goch
Uchder (m) 831
Uchder (tr) 2726
Amlygrwydd (m) 76
Lleoliad yn Eryri
Map topograffig Landranger 115;
Explorer 17W
Cyfesurynnau OS SH628612
Gwlad Cymru
Dosbarthiad Hewitt a Nuttall
Foel Goch (Glyderau gorllewinol) is located in Cymru
Foel Goch (Glyderau gorllewinol) (Cymru)

Mae Foel Goch yn fynydd 831 meter (2726 troedfedd) yn y Glyderau yn Eryri, cyfeiriad grid SH628612. Saif ar y grib sy'n arwain tua'r gogledd o gopa Y Garn, ar hyd ochr orllewinol Nant Ffrancon, yn cael ei wahanu oddi wrth Y Garn gan Fwlch y Cywion. Ymhellach i'r gogledd ar hyd y grib mae Mynydd Perfedd a Carnedd y Filiast. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 755 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Gellir ei ddringo o Lyn Ogwen, trwy ddilyn y llwybr heibio Llyn Idwal a dringo i'r grib ger y Twll Du. Yna gellir dringo Y Garn gyntaf ac yna ymlaen i gopa Foel Goch. Gerllaw mae Llyn y Gaseg-fraith

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 831 metr (2726 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 10 Mawrth 2007.

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato