Ffrederic II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ffrederic II

Roedd Ffrederic II 26 Rhagfyr 1194 - 13 Rhagfyr 1250) yn frenin Sicilia o 1198 ymlaen, yn frenin yr Almaen o 1212 ac yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 1220 hyd ei farwolaeth.

Roedd Ffrederic yn fab i'r ymerawdwr Henri VI o deulu Hohenstaufen a Constance o Sicila. O 1222 ymlaen, bu'n ymgyrchu yn erbyn y Mwslimiaid oedd wedi ymsefydlu yn Sicila, gan orfodi pob un nad oedd yn barod i droi at Gristnogaeth i symud i ddinas Lucera.

Yn 1225, priododd Ffrederic Yolande o Jeriwsalem, ac addawodd i'r Pab y byddai'n mynd ar Groesgad. Cychwynnodd yn 1228, wedi iddo gael ei esgymuno am oedi'n rhy hir. Nôd Ffrederic oedd ceisio cael cytundeb diplomatig i ganiatau i Gristnogion ymweld a'r safleoedd sanctaidd. Yn 1229, cytunodd i Heddwch Jaffa gyda Swltan yr Aifft. Ar 12 Mawrth 1229, coronwyd Ffrederic yn Frenin Jeriwsalem. Bu gwrthwynebiad cryf gan arweinwyr y Ffranciaid, a gadawodd Ffrederic Jeriwsalem i ddychwelyd i Sicilia.

Gelwid Ffrederic yn Stupor Mundi ("rhyfeddod y byd"). Siaradai chwech iaith: Lladin, Sicileg, Almaeneg, Ffrangeg, Groeg ac Arabeg. Ymddiddorai mewn athroniaeth a gwyddoniaeth, ac ysgrifennodd lyfr ar heboga: De Arte Venandi cum Avibus ("Am y gelfyddyd o hela gydag adar").