Ewcalyptws

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Blodau a dail yr ewcalyptws

O'r iaith Roeg y daw'r gair ewcalyptws sef εὐκάλυπτος, eukályptos, sy'n golygu "gorchuddiwyd yn dda"; planhigyn blodeuol sy'n perthyn i deulu'r myrtwydd (Myrtaceae) ac sy'n deillio o Awstralia, Guinea Newydd, Ynysoedd y Philippines ac Indonesia ydyw. Ceir dros 700 gwahanol fath o ewcalyptws. Dim ond 15 ohonynt sy'n tyfu'n naturiol y tu allan i Awstralia.

Defnyddir y goeden hon y tu allan i'w thiriogaeth frodorol er mwyn sychu rhostiroedd i leihau malaria ond mae cryn ddadlau ynghylch hyn.[1]

[golygu] Meddygaeth amgen

Defnyddir rhannau o'r ewcalyptus i leddfu symptomau: annwyd, clunwst (Sgiatica), ffliw ac i glirio llau pen.

[golygu] Cyfeiriadau

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill