Euryn cefnwyrdd

Oddi ar Wicipedia
Euryn cefnwyrdd
Oriolus sagittatus

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Oriolidae
Genws: Oriolus[*]
Rhywogaeth: Oriolus sagittatus
Enw deuenwol
Oriolus sagittatus

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Euryn cefnwyrdd (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: eurynnod cefnwyrdd) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Oriolus sagittatus; yr enw Saesneg arno yw Olive-backed oriole. Mae'n perthyn i deulu'r Eurynnod (Lladin: Oriolidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1]

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn O. sagittatus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Awstralia.

Teulu[golygu | golygu cod]

Mae'r euryn cefnwyrdd yn perthyn i deulu'r Eurynnod (Lladin: Oriolidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Euryn Oriolus oriolus
Euryn Saõ Tomé Oriolus crassirostris
Euryn cefnfelyn Asia Oriolus xanthonotus
Euryn gwarddu Oriolus chinensis
Euryn melyn Awstralia Oriolus flavocinctus
Euryn penddu Asia Oriolus xanthornus
Pitohwi amryliw Pitohui kirhocephalus
Pitohwi cribog Pitohui cristatus
Pitohwi penddu Pitohui dichrous
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cynefin a dosbarthiad[golygu | golygu cod]

Lle mae'r euryn melyn Awstralia yn arbenigo mewn cynefinoedd llaith, â llystyfiant trwchus yn y gogledd pell trofannol, mae'r euryn cefnwyrdd yn llai arbenigol, yn ffafrio amgylcheddau coetir mwy agored, ac yn goddef hinsoddau sychach (ond nid anialwch). Er eu bod yn gyffredin neu gyffredin iawn yn y gogledd, mae'r eurynnod hyn i'w gweld yn llai aml yn y de, ond serch hynny maent yn cyrraedd cyn belled â de-ddwyrain De Awstralia. Maent yn ymestyn o ogledd eithaf Gorllewin Awstralia ar draws arfordiroedd y dwyrain a'r de i Victoria a chornel De Awstralia. Mae'r rhan fwyaf o adar yn bridio yn ystod y tymor gwlyb trofannol, ond mae rhai yn mudo tua'r de i fridio.

Ymwelwyr yr haf yn ardal Canbera yn bennaf ond bydd ychydig yn ymdroi yno yn y gaeaf hefyd meddai'r naturiaethwr John Bundock[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Safonwyd yr enw Euryn cefnwyrdd gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.