Edeulys blewddail

Oddi ar Wicipedia
Edeulys blewddail
Blepharostoma trichophyllum

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Pseudolepicoleaceae
Genws: Blepharostoma
Rhywogaeth: B. trichophyllum
Enw deuenwol
Blepharostoma trichophyllum

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Edeulys blewddail (enw gwyddonol: Blepharostoma trichophyllum; enw Saesneg: hairy threadwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Yng ngwledydd Prydain, mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru, gogledd Lloegr, yr Alban ac arfordir Iwerddon.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'r Edeulys blewddail yn wyrdd golau, llachar gyda choesynnau main main, sy'n llai na 0.5 mm mewn diametr, gyda tri neu bedwar o ddail.

Ychydig iawn o lysiau'r afu Prydeinig sydd mor fain â'r Edeulys blewddail (B. trichophyllum), ac nid oes gan yr un arall y math cordeddog yma o goesynnau a bysedd main sy'n lledaenu ar yr wyneb. Mae'r dail yma, sy'n lledaenu, yn rhoi ymddangosiad blewog iddo; dim ond yn y Gwlanlys hardd (Trichocolea tomentella) y ceir hyn, ond mae hwnnw'n blanhigyn llawer mwy.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Edeulys blewddail gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.