Dueglys Lindenberg
Dueglys Lindenberg Adelanthus lindenbergianus | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Adelanthaceae |
Genws: | Adelanthus |
Rhywogaeth: | A. lindenbergianus |
Enw deuenwol | |
Adelanthus lindenbergianus |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Dueglys Lindenberg (enw gwyddonol: Adelanthus lindenbergianus; enw Saesneg: Lindenberg's featherwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida. Nid yw'r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru ond mae i'w gweld yng ngorllewin Gweriniaeth Iwerddon ac un neu ddau o fannau yng ngorllewin yr Alban.[1]
Mae ei brif ddosbarthiad ym mynyddoedd De America a throfannol Affrica (Grolle, 1969, 1972; Gradstein et al., 1983). Ei ddarganfyddiad cyntaf yn Ewrop oedd ar Ynys Achill, Swydd Mayo, Iwerddon, lle canfuwyd ef ym Mehefin 1903 gan Canon H.W. Lett. Ers hynny, fe'i darganfuwyd ar fynyddoedd Donegal, Mayo, Galway a Kerry yn Iwerddon, ac ar Ynysoedd Mewnol Heledd, fe'i ceir at Ynys Ìle (Saesneg: Islay). Dyma'r unig ardaloedd o fewn Ewrop lle mae'r rhywogaeth hon i'w cael, ac ym mhob un ohonynt mae'n brin iawn (ac eithrio ar Ynys Ìle efallai) ac mae'n prinhau'n gyflym oherwydd colli cynefin, i'r pwynt lle gallai ddiflannu yn Iwerddon yn y dyfodol agos (Holyoak, 2006).[2]
Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]
- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[3] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ species.nbnatlas.org; adalwyd 2 Mai 2019.
- ↑ rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 2 Mai 2019.
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.