Ìle

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Ìle

Un o Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Ìle (Saesneg: Islay). Hi yw'r mwyaf deheuol o Ynysoedd Heledd. Mae'r boblogaeth tua 3,000, gyda tua 35% ohonynt yn siarad Gaeleg..

Y pentref mwyaf yw Bowmore, gyda Port Ellen a Port Charlotte hefyd yn bwysig. Gellir cyrraedd yr ynys mewn awyren o Glasgow, neu ar y fferi o harbwr Kennacraig. Mae'r ynys yn nodedig am ei wisgi; ynhlith y rhai a gynhyrchir yma mae Ardbeg, Laphroaig, Lagavulin Single Malt, Bowmore single malt, Bruichladdich, Bunnahabhain a Caol Ila. Daw llawer o adarwyr yma, yn enwedig yn y gaeaf i weld y miloedd o wyddau sy'n gaeafu yma, yn enwedig yr Wydd Wyran.

Pobl enwog o Ìle[golygu]

Harbwr Port Ellen