Dorothy Bonarjee

Oddi ar Wicipedia
Dorothy Bonarjee
GanwydAwst 1894 Edit this on Wikidata
Bareilly Edit this on Wikidata
Bu farw1983 Edit this on Wikidata
Ffrainc Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru Baner Ffrainc Ffrainc Baner India India Baner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethbardd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
PriodPaul Surtel Edit this on Wikidata

Roedd Dorothy Noel 'Dorf' Bonarjee (Awst 18941983) yn fardd, cyfreithiwr ac arlunydd Indiaidd. Roedd hi'n adnabyddus am dderbyn cadair farddol pan oedd hi'n fyfyriwr yng Nghymru. Hi oedd y fenyw gyntaf i dderbyn gradd yn y gyfraith yn fewnol gan Goleg Prifysgol Llundain.[1]

Ganwyd Bonarjee yn Bareilly, Gogledd India, yn ferch i fargyfreithiwr. Roedd hi'n aelod o deulu Cristnogol Bengali. Treuliodd Bonarjee lawer o’i phlentyndod yn Dulwich yn ne Llundain. Ym 1912, cofrestrodd Bonarjee i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth. Tra’n fyfyriwr, cyhoeddodd farddoniaeth Saesneg yng nghyfnodolyn y coleg The Dragon ac yn Welsh Outlook. Ym mis Chwefror 1914, dyfarnwyd y gadair Farddol iddi yn Eisteddfod y coleg am gerdd a gyflwynwyd o dan ffugenw, cerdd yn Saesneg i Owain Lawgoch. Hi oedd y fenyw gyntaf a'r cyntaf nad oedd o dras Ewropeaidd i ennill Eisteddfod y coleg. Roedd ei thad yn bresennol am y seremoni. Diolchodd i'r rhai oedd yn bresennol am 'derbyn cystadleuydd llwyddiannus o hil a gwlad wahanol'. Ysgrifennodd Bonarjee mwy na chwe deg o gerddi. Ochr yn ochr ag un, ysgrifennodd hi nodyn (yn Saesneg): 'Wedi'i ysgrifennu yn 22 oed pan ollyngodd myfyriwr o Gymru ar ôl 3 blynedd o ymgysylltiad cudd fi oherwydd bod ei rieni wedi dweud "Mae hi'n brydferth ac yn ddeallus iawn ond mae hi'n Indiaidd."'[2]

Roedd Bonarjee yn cefnogi'r mudiad dros y bleidlais i ferched. Ym 1919, ynghyd â’i mam, arwyddodd Anerchiad Rhyddfraint Merched India.[1] Ni ddychwelodd i India i ymuno â'i rhieni. Ym 1921 priododd hi â'r arlunydd Ffrengig Paul Surtel. Roeddent yn byw yn Provence, Ffrainc, gyda'u plant: un fab, Denis, a fu farw fel baban, a ferch, Claire Aruna. Ysgarodd y cwpl ym 1936.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Beth R. Jenkins. "Bonarjee, Dorothy Noel ('Dorf') (1894-1983), bardd a chyfreithiwr". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2020.
  2. "'She is beautiful but she is Indian': The student who became a Welsh bard at 19". BBC (yn Saesneg). 28 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2020.