Diffyg ar yr haul

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Diffyg llawn ar yr haul yn 1999.

Ffenomen a achosir gan y lleuad yn gorwedd rhwng y Ddaear a'r haul gan beri i'r haul gael ei orchuddio dros dro, o safbwynt gwyliwr ar y Ddaear, yw diffyg ar yr haul. Gall diffygion ar yr haul fod yn ddiffygion llwyr neu'n rhannol; yr olaf sydd fwyaf cyffredin. Mae diffyg (neu 'eclips') yn digwydd pan fo unrhyw wrthrych astronomegol yn symud i gysgod gwrthrych arall, neu pan fo gwrthrych yn pasio rhyngddo a'r gwyliwr. Ar y Ddaear, y ddau ddiffyg a welir ydy diffyg ar yr haul a diffyg ar y lloer.

Mae diffyg llawn yn peri i'r awyr dywyllu'n sylweddol iawn, ffenomen a achosai ofn ym meddwl pobl yn y gorffennol, cyn cael esboniad gwyddonol am y digwyddiad. Credai rhai pobloedd hynafol fod yr haul yn cael ei lyncu gan fod goruwchnaturiol, er enghraifft, a byddai pobl yn gweddio neu'n aberthu i gael yr haul yn ôl. Roedd y gallu i ragweld diffygion ar yr haul, trwy gadw cofnodion seryddol, yn rhoi grym arbennig i offeiriad ac yn eu plith, fe ymddengys, derwyddon y Celtiaid.

Yng Nghymru[golygu]

Prin iawn y ceir diffyg ar yr haul llawn yng Nghymru ond ceir cofnodion ohonynt yn y gorffennol. Yr olaf oedd ym Mehefin 1927 a chyn hynny ym Mai 1724, Mai 1715, Ebrill 1652, Chwefror 1598, Mawrth 1140, Ionawr 1023 a Hydref 878.[1] Roedd y tywydd ar ddiwrnod y diffyg llawn diwethaf (29 Mehefin 1927) yn wael, gyda chymylau duon a glaw mawr. Nid oedd hi'n bosibl felly ei arsylwi'n llawn, ond ceir disgrifiadau bras mewn papurau o'r cyfnod.

Cafwyd diffyg modrwyol (annular eclipse) yn Hydref 1847, Rhagfyr 1601, Ebrill 1409, Medi 1290, Mehefin 1191, Ionawr 1180, Ebrill 934, Mehefin 764, Awst 733, Rhagfyr 698, Gorffennaf 661 a Medi 536.[2] Ar adegau o ddiffyg modrwyol, mae'r lleuad yn bellach i ffwrdd o'r ddaear ac felly'n bwrw gorchuddio llawer llai o'r haul, sy'n ymddangos fel modrwy o'i gwmpas.

Ceir cofnodion o wahanol ddiffygion yn yr hen lawysgrifau Cymreig.

Diffyg Mai 1836[golygu]

Ym Mehefin 1836 cafwyd yr adroddiad canlynol yn Seren Ogleddol:

DIFFYG AR YR HAUL
CYMERODD y peth anarferol hwn le, Sabbath y 15 o Fai, yn union yn yr amser, ac yn ol y darluniad a roisom o hono yn ein papyr yr wythnos o'r blaen, ebai y `Carnarvon Herald.' Yr oedd yr awyrgylch yn dra ffafrol i sylwi arno, a'r blaned Gwener oedd yn weladwy i'r llygad noeth o dri o'r gloch hyd ugain mynyd wedi tri.
Mewn rhai mannau yn y dywysogaeth, dywedir fod y brain yn myned i'w coedwigoedd, ar adar yn myned i'w nythod, a'r ystlym yn gwneuthur ei hymddangosiad ; yr ieir yn chwilio am eu clwydau. Yr oedd natur wedi pruddhau, fel wedi ei tharaw â dychryn a syndod ; yr awyr yn yn oer ac yn dywyllddu, fel pe buasai ryw ymarllwysiad ofnadwy ar ddyfod i'r ddaear o rywbeth anarferol ; ac wedi i'r llen gael ei symud dipyn oddiar wyneb brenin y dydd, dyma natur fel yn codi o farw i fyw, yr ystlumod yn dianc i'w tyllau, a'r adar mân yn pyncio pereiddfawl i'w Crëwr, a phob peth yn ymddangos mor siriol a dymunol a chynt.-"Wele dyma ranau ei ffyrdd ef, ond mor fychan ydyw y peth ydym ni yn ei glywed am dano ef!"[3]
Diffyg ar y lloer Mawrth 2003, wedi'i gyflymu.

Diffyg modrwyol 1847[golygu]

A'r haul yn isel uwch y gorwel, cafwyd y diffyg modrwyol diwethaf yng Nghymru ar fore'r 9fed o Hydref, 1847. Yn Ne Cymru y gellid ei weld a dyma sut yr adroddwyd ei hanes yn Gymraeg eto, yn y Cambrian Natural Observer yn 1900 gan R. Kendrick o Aberystwyth:

Rwyf yn awr heb fod yn mhell iawn o fod yn dri-ugain mlwydd oed, ac yr ydwyf yn seryddwr o rhyw fath er yn ieuanc iawn. Cefus genyf weled y diffyg rhanol mawr tua'r flwyddyn 1847, ac mae'r syndod a'm llanwodd yr adeg hono yn fyw yn fy meddwl y foment hon. Rywsut, yr wyf yn meddwl fod Rhagluniaeth yn fy ffafrio gyda phethau seryddol.

Y llawysgrifau[golygu]

Ceir sawl cyfeiriad at ddiffyg ar yr haul yng Nghymru yn yr hen lawysgrifau gan gynnwys pedwar ym Mrut y Tywysogion ac un cofnod o ddiffyg ar y lloer.[4]

  • 807 - Ac yna y bu varw Arthen, vrenhin Keredigyawn. Ac y bu diffyc ar yr heul.
    Mae'n ymddangos mai cyfeirio at ddiffyg 11 Chwefror 807 mae'r nodyn yma.
  • 810-810 - Deg mlyned ac wythcant oed oet Crist pan duawd y lleuat dyw Nadolyc. Ac y llosget Mynyw. Ac y bu varwolaeth yr anifeilet ar hyt ynys Brydein. Cafwyd diffyg ar y lloer llawn ar y 14 Rhagfyr 810 (Calendr Iwliaidd).
  • 830-831 - Deg mlyned ar hugein ac wythgant oed oet Crist pan vu diffyc ar y lleuat yr wythuet dyd o vis Racuyr. Ac y bu varw Satur[n]biu, esgob Mynyw. Mae'n bosib fod y nodyn hwn yn cyfeirio at ddiffyg ar y lloer ar 4 Tachwedd 830 (Calendr Iwliaidd)
  • 1137-1138 - Ac yna y bu diffic ar yr heul y deudecuetyd o Galan Ebrill. Ymddengys mai cyfeirio at ddiffyg ar yr haul llawn yr 20 Mawrth 1140 mae'r cyfeiriad hwn, ond os felly, yna mae'r dyddiad a nodir gan Thomas Jones ddwy flynedd yn rhy gynnar.
  • 1184-1185 - Yn y ulwyddyn honno dyw Calan Mei y sumudawd yr heul y lliw; ac y dywat rei uot anei diffyc. Ar Galan Mai 1184, roedd y diffyg yn llawn yn Ucheldir yr Alban, Ynysoedd Gorllewin yr Alban a'r Ynysoedd Erch.
  • 1191-1191 - Ac y bu diffyc ar yr heul.

A cheir un cofnod yn fersiwn Llyfr Coch hergest o'r Brut, sy'n cyfeirio o bosib at ddiffyg ar y lloer,:

  • 691 - A'r lleuat a ymchoelawd yn waedawl liw. Cyfeirir yma at ddiffyg 17 Mai 691.

Y cofnodion cynharaf[golygu]

Ceir cofnodion cynhanes o ddiffygion; y cofnod cynharaf y gwyddwn amdano yw tabled glai o Syria sy'n cofnodi diffyg ar yr haul yn 5 Mawrth 1223 C.C.,[5] er bod astronomegwyr eraill megis Paul Griffin yn honi mai carreg yn Iwerddon yw'r cofnod cynharaf, sy'n nodi diffyg 30 Tachwedd 3340 C.C.[6]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. [http://www.jonesbryn.plus.com/wastronhist/eclipseshist.html Gwefan Bryn Jones (http://www.jonesbryn.plus.com/%7C); adalwyd 19 Gorffennaf 2014
  2. UK Solar Eclipses from Year 1 gan Sheridan Williams, cyhoeddwyd gan Clock Tower Press.
  3. Y Seren Ogleddol, Mehefin 1836, tud. 183.
  4. Fersiwn Thomas Jones, Brut y Tywysogyon, / Llyfr Coch Hergest, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1955.
  5. de Jong, T.; van Soldt, W. H. (1989). "The earliest known solar eclipse record redated ". Nature 338 (6212): 238–240. Bibcode 1989Natur.338..238D. doi:10.1038/338238a0. http://www.nature.com/nature/journal/v338/n6212/abs/338238a0.html. Adalwyd 2007-05-02. 
  6. Griffin, Paul (2002). "Confirmation of World's Oldest Solar Eclipse Recorded in Stone". The Digital Universe. http://www.astronomy.ca/3340eclipse/. Adalwyd 2007-05-02.