Cyngor Dosbarth Caerfyrddin
Oddi ar Wicipedia
Cyngor Dosbarth Caerfyrddin oedd cyngor lleol ardal dref Caerfyrddin, rhannau o Gwm Gwendraeth, a gogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin rhwng 1974 ac 1996. Pencadlys y cyngor oedd 3 Heol Spilman, Caerfyrddin sydd bellach yn Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor Sir Gaerfyrddin. Roedd trefi Castellnewydd Emlyn, Llanybydder, Hendy-gwyn ar Dâf, Sanclêr, a Talacharn yn rhan o'r ardal weinyddol a rhanodd yr awdurdod cyfrifoldebau efo Cyngor Sir Dyfed, Cyngor Bwrdeistref Llanelli, Cyngor Bwrdeistref Dinefwr yn unig o fewn ardal bresennol Sir Gaerfyrddin.