Cyngor Cymuned Llanbadarn Fawr

Oddi ar Wicipedia
Cyngor Cymuned Llanbadarn Fawr
MathCyngor Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)

Mae Cyngor Cymuned Llanbadarn Fawr yn gyngor cymuned dros bentref Llanbadarn Fawr.[1]

Mae'r cyngor yn ethol 15 cynghorydd o ddau ward: Llanbadarn Fawr - Sulien (9)[2] a Llanbadarn Fawr - Padarn (6).[3]

Yn ei Chyfarfod Blynyddol a gynhelir ym mis Mai, etholir Cadeirydd ac Is-gadeirydd. Y Cadeirydd ar gyfer 2018-19 yw'r Cynghorydd Linda Keeler Annibynnol). Cynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn festri Capel Soar, Llanbadarn Fawr.

Ei ffiniau, gyda'r cloc o'r gogledd yw cymunedau Y Faenor, Llanfarian ac Aberystwyth.


Hanes Etholiadol[golygu | golygu cod]

Cynhelir etholiadau Cyngor Cymuned Llanbadarn Fawr yr un adeg â rhai cynghorau lleol eraill Cymru.

Etholiad 2017[golygu | golygu cod]

Cyhaliwyd yr etholiad ddiwethaf ar 3 Mai 2017. Gan bod llai o ymgeiswyr nag o seddi, etholwyd y cynghorwyr yn ddi-wrthwynebiad.[4][5]

Ward Party Candidates
Llanbadarn Fawr - Sulien[4] Annibynnol David Greaney
Plaid Cymru Paul James
Annibynnol Linda Mary Keeler
Plaid Cymru Dafydd John Pritchard
Plaid Cymru Siôn Tomos Jobbins
Llanbadarn Fawr - Padarn[5] Annibynnol Benjamin Lewis Davies
Annibynnol David Martin James Davies
Plaid Cymru Gareth Davies
Rhyddfrydwyr Ada Margaret Leney
Plaid Cymru Stepanie Mary Lennon

Etholiad 2012[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd etholiad 2012 ar 3 Mai. Ni chafwyd gornest yn un o'r seddi.[2][3]

Ward Party Candidates
Llanbadarn Fawr - Sulien Plaid Cymru David Greaney
Plaid Cymru Mark Hemingway
Plaid Cymru Paul James
Plaid Cymru Stephanie Lennon
Plaid Cymru Dafydd John Pritchard
Annibynnol Gwern Gwynfil Evans
Annibynnol Linda Mary Keeler
Annibynnol Paul Thomas
Llanbadarn Fawr - Padarn Annibynnol Benjamin Lewis Davies
Annibynnol Sarah Mary Jones
Annibynnol D Martin J davies
Plaid Cymru Gareth Davies
Plaid Cymru Ursula Byrne
Rhyddfrydwyr Margaret Lenney

Gan bod dau le gwag, un i bob ward, penderfynnodd y Cyngor gyfethol 2 aelod annibynnol:David Greaney a Martin Davies (a oedd wedi bod yn gynghorydd o'r blaen).[6]

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Llanbadarn Fawr Community Council". One Voice Wales. Cyrchwyd 19 August 2012.[dolen marw]
  2. 2.0 2.1 "Result of Uncontested Election". Ceredigion County Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 19 August 2012.
  3. 3.0 3.1 "Result of Uncontested Election". Ceredigion County Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 19 August 2012.
  4. 4.0 4.1 https://www.ceredigion.gov.uk/SiteCollectionDocuments/Your%20Council/Voting%20and%20Elections/2017/town/u/LLANBADARN%20FAWR%20-%20SULIEN.pdf[dolen marw]
  5. 5.0 5.1 https://www.ceredigion.gov.uk/SiteCollectionDocuments/Your%20Council/Voting%20and%20Elections/2017/town/u/LLANBADARN%20FAWR%20-%20PADARN.pdf[dolen marw]
  6. Diogo, Pedro. "Minutes of previous meeting & Next Llanbadarn Fawr Community Council Meeting: 9 July 2012". Cyrchwyd 19 August 2012.[dolen marw]

Gwefan Cyngor Cymuned Llanbadarn Fawr