Cwpan Rhyng-gyfandirol

Oddi ar Wicipedia
Cwpan Rhyng-gyfandirol
Enghraifft o'r canlynolclub world championship, international association football clubs cup, cystadleuaeth cymdeithas bêl-droed, a ddaeth i ben Edit this on Wikidata
Daeth i ben2004 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1960 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1960 Edit this on Wikidata
OlynyddCwpan Clwb y Byd FIFA Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cystadleuaeth a gynhaliwyd rhwng 1960 a 2004 rhwng timau o Gonffederasiwn UEFA a Chonffederasiwn CONMEBOL[1][2] oedd y Cwpan Rhyng-gyfandirol. Yn amlach na pheidio, pencampwyr Cwpan Ewrop/Cynghrair y Pencampwyr UEFA a phencampwyr y Copa Libertadores fyddai'n herio eu gilydd. Ar 27 Hydref, 2017, cyhoeddodd FIFA fod y tlws hwn yn deitl swyddogol y byd (cyfwerth â Cwpan Clwb y Byd FIFA) yn seiliedig ar dechnegol amlwg uwchradd yn y blynyddoedd hynny[3][4]

Ers 2005, mae Cwpan Clwb y Byd FIFA wedi ei ddisodli fel prif gystadleuaeth clybiau pêl-droed y byd a diddymwyd y Cwpan Rhyng-gyfandirol.[5]

Hanes[golygu | golygu cod]

Crewyd y gystadleuaeth ym 1960 yn dilyn syniad gan ysgrifennydd cyffredinol UEFA, Henri Delaunay, oedd am weld gêm rhwng pencampwyr Ewrop a phencampwyr De America. Roedd ei syniad yn sbardun i greu y Copa Libertadores, sef fersiwn De America o Gwpan Pencampwyr Ewrop[6].

Chwaraewyd rowndiau terfynol cynnar y gystadleuaeth dros ddau gymal, gyda trydedd gêm yn cael ei chwarae yn y dyddiau cyn cyflwyno'r rheol goliau oddi cartref. Real Madrid C.F. o Sbaen oedd y pencampwyr cyntaf gan drechu Peñarol o Wrwgwái 5-1 ym Madrid wedi gêm ddi-sgôr yn Montevideo[7]. Ond cafwyd gwrthwynebiad gan FIFA pan gyhoeddodd y Sbaenwyr eu bod bellach yn "bencampwyr byd". Dywedodd y corff llywodraethol mai pencampwyr rhyng-gyfandirol yn unig oedd pencampwyr gêm rhwng dim ond dau gonffederasiwn[8]. Ar 27 Hydref, 2017, cyhoeddodd FIFA fod y tlws hwn yn deitl swyddogol y byd (cyfwerth â Cwpan Clwb y Byd FIFA).[3][4]

Rhwng 1980 a 2004, cynhaliwyd y rownd derfynol yn Siapan ac fe'i noddwyd gan gwmni ceir Toyota.

Ystadegau[golygu | golygu cod]

Clwb Ffederasiwn Tlysau Manylion
Real Madrid  Sbaen 3 3 (1960, 1998, 2002)
A.C. Milan Baner Yr Eidal Yr Eidal 3 3 (1969, 1989, 1990)
Penarol Wrwgwái Wrwgwái 3 3 (1961, 1966, 1982)
Nacional Montevideo Wrwgwái Wrwgwái 3 3 (1971, 1980, 1988)
Boca Juniors Yr Ariannin Yr Ariannin 3 3 (1977, 2000, 2003)
São Paulo F.C.  Brasil 2 2 (1992, 1993)
Inter Milan Baner Yr Eidal Yr Eidal 2 2 (1964, 1965)
F.C. Bayern München  Almaen 2 2 (1976, 2001)
Santos  Brasil 2 2 (1962, 1963)
Independiente Yr Ariannin Yr Ariannin 2 2 (1973, 1984)
Ajax Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd 2 2 (1972, 1995)
Juventus Baner Yr Eidal Yr Eidal 2 2 (1985, 1996)
Porto  Portiwgal 2 2 (1987, 2004)
Manchester United Baner Lloegr Lloegr 1 1 (1999)
Racing Avellaneda Yr Ariannin Yr Ariannin 1 1 (1967)
Estudiantes Yr Ariannin Yr Ariannin 1 1 (1968)
Feyenoord Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd 1 1 (1970)
Atlético Madrid  Sbaen 1 1 (1974)
Olimpia Paragwâi Paragwâi 1 1 (1979)
Flamengo  Brasil 1 1 (1981)
Grêmio  Brasil 1 1 (1983)
River Plate Yr Ariannin Yr Ariannin 1 1 (1986)
Crvena zvezda Baner Iwgoslafia Iwgoslafia 1 1 (1991)
Vélez Yr Ariannin Yr Ariannin 1 1 (1994)
Borussia Dortmund  Almaen 1 1 (1997)

Timau[golygu | golygu cod]

Mae pum tîm wedi ennill y tlws ar dair achlysur:

Gwledydd[golygu | golygu cod]

Gwlad Timau Cwpan Blynyddoedd
Yr Ariannin Primera Division Ariannin 6 9 1967, 1968, 1973, 1977, 1984, 1986, 1994, 2000, 2003
yr Eidal Serie A 3 7 1964, 1965, 1969, 1985, 1989, 1990, 1996
Brasil Campeonato Brasileiro Série A 4 6 1962, 1963, 1981, 1983, 1992, 1993
Wrwgwái Primera Division Wrwgwái 2 6 1961, 1966, 1971, 1980, 1982, 1988
Sbaen La Liga 2 4 1960, 1974, 1998, 2002
Yr Iseldiroedd Eredivisie 2 3 1970, 1972, 1995
Yr Almaen Bundesliga 2 3 1976, 1997, 2001
Portiwgal Primeira Liga 1 2 1987, 2004
Paragwâi Primera Division Paragwai 1 1 1979
Teyrnas Yugoslavia Prif Gynghrair Iwgoslafia 1 1 1991
Lloegr Uwch Gynghrair Lloegr 1 1 1999

Conffederasiwn[golygu | golygu cod]

Conffederasiwn Timau Gwledydd Cwpanau
CONMEBOL 13 4 22
UEFA 12 7 21

Hyfforddwyr[golygu | golygu cod]

Llwyddodd Carlos Bianchi i godi'r tlws deirgwaith fel hyfforddwr; unwaith gyda Vélez Sársfield ym 1994, a 2 gyda Boca Juniors yn 2000 a 2003.

Mae Luis Cubilla a Juan Mujica, wedi ennill y tlws fel chwaraewr ac fel hyfforddwr:

  • Luis Cubilla (chwarae i Peñarol ym 1961 ac i Nacional ym 1971; hyfforddi Olimpia ym 1979)
  • Juan Mujica (chwarae i Nacional ym 1971; a hyfforddi'r clwb ym 1980)

Chwaraewyr[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Legend – UEFA club competition" (PDF). Union des Associations Européennes de Football. 2009. t. 99.
  2. "Competencias oficiales de la CONMEBOL". Confederación Sudamericana de Fútbol (yn Spanish). 2011. tt. 99, 107.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. 3.0 3.1 FIFA Council approves key organisational elements of the FIFA World Cup Archifwyd 2017-10-27 yn y Peiriant Wayback. - Recognition of all European and South American teams that won the Intercontinental Cup – played between 1960 and 2004 – as club world champions./ www.fifa.com
  4. 4.0 4.1 "FIFA Club World Cup 2017 - History" (PDF). FIFA Report 2017, pages 15, 40, 41, 42 (Zurich: Fédération Internationale de Football Association). December 2017. http://resources.fifa.com/mm/document/fifafacts/mencompcwc/02/67/91/87/statskit_fcwc2017_event_neutral.pdf. Adalwyd 2018-02-13.
  5. "FIFA Club World Championship to replace Toyota Cup from 2005". Fédération Internationale de Football Association. 2004-05-17. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-30. Cyrchwyd 2015-05-31.
  6. "Man Utd: Intercontinental Cup". Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "Intercontinental Cup 1960". Fédération Internationale de Football Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-07. Cyrchwyd 2015-05-31.
  8. "La Copa Intercontinental, un perro sin amo". El Mundo Deportivo.