A.C. Milan
| Enw llawn | Associazione Calcio Milan (Cymdeithas Pêl-droed Milan). |
||
|---|---|---|---|
| Llysenw(au) | Rossoneri Il Diavolo |
||
| Sefydlwyd | 1899 | ||
| Maes | San Siro (Stadio Giuseppe Meazza) |
||
| Cadeirydd | |||
| Rheolwr | gwag | ||
| Cynghrair | Serie A | ||
| 2009-2010 | 3ydd | ||
|
|
|||
Clwb pêl-droed sy'n chwarae yn Serie A yn yr Eidal yw Associazione Calcio Milan. Mae'n un o glybiau pêl-droed enwocaf a mwyaf llwyddiannus Ewrop. Mae chwaraewyr A.C. Milan wedi bod yn bencampwyr Ewrop saith gwaith; dim ond Real Madrid gyda naw buddugoliaeth sydd wedi bod yn fwy llwyddiannus yn y gystadleuaeth. Maent wedi ennill pencampwriaeth Serie A 17 o weithiau; dim ond Juventus sydd wedi ei hennill fwy o weithiau.
Sefydlwyd y clwb fel clwb criced ym 1899 gan Brydeiniwr o'r enw Alfred Edwards. Mae'n rhannu stadiwm San Siro, sydd â 82,955 o seddi, gyda thîm pêl-droed arall dinas Milan, Internazionale. Perchennog y clwb yw Silvio Berlusconi.
Chwaraewyr enwog [golygu]
Presennol [golygu]
- Filippo Inzaghi
- Andrea Pirlo
- Gennaro Gattuso
- Clarence Seedorf
- Alessandro Nesta
- Gianluca Zambrotta
- Massimo Ambrosini
- Andriy Shevchenko
- Ronaldinho
Cyn-chwaraewyr [golygu]
- Roberto Baggio
- Franco Baresi
- Gianni Rivera
- Paolo Rossi
- Jimmy Greaves
- Marcel Desailly
- Ruud Gullit
- Patrick Kluivert
- Frank Rijkaard
- Cafu
- Kaká
- Paolo Maldini
- Ronaldo
| Serie A, 2011–2012 | ||
|---|---|---|
|
Atalanta | Bologna | Cagliari | Catania | Cesena | Chievo | Fiorentina | Genoa | Inter | Juventus | Lazio | Lecce | Milan | Napoli | Novara | Palermo | Parma | Roma | Siena | Udinese |