Cwmpawd
Teclyn i fforio ydy'r cwmpawd, sy'n caniatáu'r defnyddiwr i ddarganfod y cyfeiriad mae'n dymuno ei wynebu. Gan fod y Ddaear yn atynnu magned i un cyfeiriad arbennig (yr hyn rydy yn ei alw'n "Ogledd"), gallem fesur yr ongl i unrhyw gyfeiriad mewn cylch o 360 gradd. Mae'r pedwar prif gyfeiriad 90 gradd oddi wrth ei gilydd: gogledd, de, dwyrain a gorllewin. Cyfunir y rhain i ddisgrifio'r cyfeiriad rhyngddynt e.e. gogledd-orllewin, de-ddwyrain. Dywedir fod y godledd yn sero gradd, a chyfrifir y graddfeydd dilynol yn glocwedd, un gradd, dwy radd, tair gtradd ayb. Mae'r dwyrain yn 90 gradd.
Mae'r cwmpawd traddodiadol yn ddibynnol ar faes magnetig, naturiol y Ddaear, gan wynebu pegynnau magnetig y Ddaear. Mae'r cwmpawd oddi fewn i ffôn yn dibynnu ar geirosgop bychan sy'n troelli.
Hanes[golygu]
Mae'n debygol mai yn nheyrnasiad Brenhinllin Han, yn Tseina, y defnyddiwyd y cwmpawd yn gyntaf: rhwng yr ail ganrif a'r ganrif gyntaf. Mae'n fwy na phosib mae ehedfaen (carreg fagnetig naturiol) oedd y fagned a ddefnyddiwyd. Roedd wedi cyrraedd Ewrop erbyn y 12ed ganrif, efallai drwy'r Llychlynwyr. Ganrif wedyn, roedd y cwmpawd sych wedi'i ddarganfod.