Gor-realaeth
Mae gor-realaeth (Saesneg: Augmented Reality) yn ddatblygiad ar rhith-wirionedd (vitual reality) ac yn ddau gymhwysiad neu brofiad cwbwl groes i'w gilydd. Mae meddalwedd rhithwir yn ceisio ail-greu'r byd go-iawn ond mae meddalwedd gorwir yn dechrau gyda'r byd go iawn (e.e. llun byw drwy gamera) ac yn rhoi haen o wybodaeth wedi'i gynhyrchu gan gyfrifiadur ar ei ben. Enghraifft o hyn ydy ffenest peilot awyren, ble ceir haen o wybodaeth yn y gwydr ar ben yr olygfa go-iawn a welir drwy'r gwydr.
Mae'n ofynol fod yn y cyfarpar neu'r teclyn a ddefnyddir elfennau megis GPS, cwmpawd a chamera. Fel hyn, mae'r teclyn yn gwybod ble mae ac i ba gyfeiriad mae'n "edrych".
Cynnwys |
Ffonau clyfar gor-real[golygu]
Mae'r ffonau clyfar mwyaf diweddar yn caniatau i chi weld gwybodaeth gorwir fel haen ar y llun a welr yn y camera.
Mae'r meddalwedd ganlynol[1] yn caniatau i'r defnyddiwr weld a darllen erthyglau Wicipedia:
Mae unrhyw erthygl ar Wicipedia sy'n cynnwys llinell syml o gyfesurynnau XY yn cael eu dangos ar y ffôn. Llinell fel hon:
- {{coord|51.809934|N|2.724615|W|name=Rhowch enw'r lle yn fama.|region:GB_source:GoogleEarth_type:landmark|display=inline}}
ble mae'r ddau rif cyntaf yn y linell yn gyfesurynnau XY. O wneud hyn caiff yr erthyglau hefyd eu codi ar fapiau megis Google Maps.
Cyfeiriadau[golygu]
Gweler hefyd[golygu]
Dolennau allanol[golygu]
- Mixed Reality Scale - Milgram and Kishino’s (1994) Virtuality Continuum paraphrase with examples