Creigiau Gleision
Oddi ar Wicipedia
| Creigiau Gleision Carneddau |
|
|---|---|
| Llun | Creigiau Gleision |
| Uchder | 678m / 2,224 troedfedd |
| Lleoliad | {{{lleoliad}}} |
| Gwlad | Cymru |
Mynydd yn y Carneddau yn Eryri yw Creigiau Gleision. Saif ger pentref Capel Curig. Ef yw'r mwyaf dwyreiniol o gopaon y Carneddau, ac mae Llyn Cowlyd yn ei wahanu oddi wrth gopa Pen Llithrig y Wrach a phrif gribau y Carneddau. I'r gogledd-ddwyrain ceir crib Cefn Cyfarwydd.
Mewn gwirionedd mae i'r mynydd dri copa. Y copa mwyaf deheuol yw'r uchaf. Gellir ei ddringo o Gapel Curig.