Crash (ffilm 2005)
Oddi ar Wicipedia
![]() Crash |
|
|---|---|
| Cynhyrchydd | Paul Haggis Don Cheadle Bobby Moresco |
| Ysgrifennwr | Paul Haggis Bobby Moresco |
| Serennu | Brendan Fraser Sandra Bullock Chris Bridges Larenz Tate Don Cheadle Matt Dillon Loretta Devine Shaun Toub |
| Cerddoriaeth | Mark Isham |
| Sinematograffeg | J. Michael Muro |
| Golygydd | Hughes Winborne(golygwr ffilm) |
| Cwmni Cynhyrchu | Lionsgate ar y cyd â DEJ Productions, Bob Yari Productions |
| Amser rhedeg | 112 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau Yr Almaen |
| Iaith | Saesneg, Sbaeneg, Perseg, Mandarin, Coreeg |
Mae Crash yn ffilm o 2005 a gyfarwyddwyd gan Paul Haggis. Cafodd y ffilm ei premiere yng Ngŵyl Ffilmiau Toronto ym mis Medi 2004, cyn cael ei rhyddhau'n rhyngwladol yn 2005. Mae'r ffilm yn ymdrin â gwrthdaro a thyndra hiliol a chymdeithasol yn Los Angeles. Disgrifia Paul Haggis y ffilm fel "passion piece" a chafodd y ffilm ei hysbrydoli gan ddigwyddiad go iawn pan gafodd ei Porsche ei gar-gipio o du allan i siop fideos ar Wilshire Boulevard ym 1991.[1] Enillodd y ffilm dair Gwobr yr Academi am y Ffilm Gorau, y Sgript Orau a'r Golygu Gorau yn 78fed Gwobrau'r Academi 2005.
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Crash DVD Commentary Track. 2005.
