Paul Haggis
Oddi ar Wicipedia
Sgriptiwr, cynhyrchydd a chyfarwyddwr ffilmiau ydy Paul Edward Haggis (ganwyd 10 Mawrth 1952 yn Llundain, Ontario, Canada), sydd wedi ennill Gwobr yr Academi. Treuliodd ddyddiau cynnar ei yrfa ym myd y teledu, yn ysgrifennu, cynhyrchu a chyfarwyddo amrywiaeth o gyfresi teledu rhwydweithiol yn yr Unol Daleithiau ac yng Nghanada.