Cofnod Cyf

Oddi ar Wicipedia
Y Cwcwll rhesog; disgrifir y cwmni fel "Gwasanaeth Gwybodaeth Amgylcheddol Gogledd Cymru. Maent yn casglu cofnodion o ba bryd ac ym mhle y gwelir pob anifail a phlanhigyn yng Nghymru.

Mae Cofnod Cyf yn sefydliad di-elw ac yn un o bedair Canolfan Gofnodion Leol (CGL) yng Nghymru. Mae'n ffurfio rhan o'r rhwydwaith cenedlaethol cyntaf o CGLau yng ngwledydd Prydain. Mae'r enw'n ddisgrifiad o'u gwaith: arsylwi a chofnodi bywyd gwyllt, a chreu 'cofnod' yw'r man cychwyn ar gyfer y holl ddata a gynhelir gan y cwmni. Cesglir yr holl gofnodion unigol - o wahanol ffynonellau - mewn un bas data canolog er mwyn gwella'r wybodaeth am yr amgylchedd yng Nghymru. Mae nodau ac amcanion y cwmni'n cynnwys darparu gwybodaeth o safon am fioamrywiaeth a geoamrywiaeth drwy gefnogi'r rhai sy'n cofnodi bywyd gwyllt ac i weithwyr amgylcheddol proffesiynol.

Mae swyddfa'r cwmni ym Mharc Menai, Bangor ac mae eu gwaith yn ymestyn drwy ogledd Cymru gan gynnwys Parc Cenedlaethol Eryri. Mae hon yn ardal fawr ac amrywiol yn ddaearyddol (6342 km²) gyda'r nifer fwyaf o safleoedd dan warchodaeth (312 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ledled 1263 km²) o holl ranbarthau CCLl Cymru.

Partneriaid[golygu | golygu cod]

Ymhlith y partneriaid sy'n darparu data ac yn ei ddefnyddio y mae: Cyngor Bwrdeisdref Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri a Llywodraeth Cymru.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Cofnod Cyf; adalwyd 24 Ebrill 2013

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]