Cyngor Sir Ddinbych
Oddi ar Wicipedia
Cyngor Sir Ddinbych yw'r awdurdod llywodraeth leol sy'n gweinyddu Sir Ddinbych, gogledd-ddwyrain Cymru. Lleolir ei bencadlys yn Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun.
Gweinyddiaeth a gwleidyddiaeth [golygu]
Ceir 47 o gynghorwyr sir, gyda phob un ohonynt yn cael ei ethol am gyfnod o 4 blynedd. Ceir 30 ward etholiadol yn y sir a gynrychiolir gan hyd at dri chynghorydd yr un. Rheolir y cyngor trwy'r Cabinet, gyda'r Arweinydd yn penodi naw Aelod Cabinet.[1] Y Prif Weithredwr presennol yw Dr Mohammed Mehmet.[2]
Yn 2010, roedd 18 cynghorydd Ceidwadol, 8 Plaid Cymru, 7 Llafur, 1 Democrat Rhyddfrydol ac 13 o aelodau Annibynnol.