Cnocell Fraith Leiaf

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cnocell Fraith Laiaf
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Piciformes
Teulu: Picidae
Genws: Picoides
Rhywogaeth: P. minor
Enw deuenwol
Picoides minor
(Linnaeus, 1758)

Mae'r Gnocell Fraith Leiaf (Picoides minor) yn aelod o deulu'r Picidae, y cnocellod. Arferid ei ddosbarthu yn y genws Dendrocopos. Mae'n byw trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gogledd Asia.

Cnocell fechan yw'r Gnocell Fraith Fwyaf, ond hellaw'r gwahaniaeth maint mae'n bur debyg i'r Gnocell Fraith Fwyaf. Mae'n byw mewn coedwigoedd neu gymysgedd o goed a chaeau. Du a gwyn yw'r rhan fwyaf o'r plu, ond mae gan y ceiliog ddarn coch ar y pen. Gellir gwahaniaethu'r gnocell yma oddi wrth y Gnocell Fraith Fwyaf trwy fod gan y Gnocell Fraith Fwyaf goch ar ran gefn y bol, sy'n absennol yn y Gnocell Fraith Leiaf, a'r gwahaniaeth mawr mewn maint.

Nid yw'r gnocell yma mor gyffredin yng Nghymru a'r Gnocell Fraith Fwyaf, ac mae'r niferoedd wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a'r rhywogaeth wedi diflannu o rai ardaloedd.

Dosbarthiad y Gnocell Fraith Leiaf
Dendrocopos minor