Clwb Rygbi Llanelli

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Clwb Rygbi Llanelli yn dîm Rygbi'r Undeb Cymreig a sefydlwyd yn 1872. Maent yn chwarae mewn coch a gwyn, a'u maes yw Parc y Strade, (Llanelli).

Mae Llanelli bron bob amser wedi bod yn un o dimau clwb cryfaf Cymru. Eu hoes aur, mae'n debyg, oedd yn nechrau'r 1970au pan oedd Carwyn James yn hyfforddwr arnynt. Yn y cyfnod yma enillasant Gwpan Cymru bedair gwaith yn olynol rhwng 1973 a 1976, yn ogystal a churo tîm y Crysau Duon mewn gêm enwog yn 1972. Cafodd Llanelli fuddugoliaeth dros Awstralia yn 1967 a chawsant gêm gyfartal gyda hwy yn 1975.

Cân Llanelli yw "Sosban Fach", cân sydd wedi dod yn gyfystyr a'r clwb bellach.

Chwaraeodd y clwb ym Mhrifadran Cymru yn 2012/13. Maent yn bwydo i mewn i dîm Scarlets Llanelli sy'n chwarae yn y Gynghrair Geltaidd.

Cyn-chwaraewyr enwog[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  • Gareth Hughes (1983). One hundred years of Scarlet. Clwb Rygbi Llanelli. ISBN 0-95-091590-4

Cysylltiadau allanol[golygu]