Barry John

Oddi ar Wicipedia
Barry John
Ganwyd6 Ionawr 1945 Edit this on Wikidata
Cefneithin Edit this on Wikidata
Bu farw4 Chwefror 2024 Edit this on Wikidata
Caerdydd, Ysbyty Athrofaol Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra178 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau75 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Caerdydd, Y Barbariaid, Clwb Rygbi Llanelli, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
Saflemaswr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cyn-chwaraewr rygbi o Gymro oedd Barry John (6 Ionawr 19454 Chwefror 2024). Ef oedd y maswr gorau yn hanes Rygbi'r undeb ym marn llawer o feirniaid.[1] Cafodd y llysenw "The King" ar ôl taith y Llewod Prydeinig yn Seland Newydd ym 1971.[2] Daeth ei bartneriaeth gyda Gareth Edwards yn chwedlonol.

Ganwyd Barry yng Nghefneithin, Sir Gaerfyrddin. Aeth i Ysgol Ramadeg y Gwendraeth a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros glwb rygbi Llanelli pan oedd dal yn yr ysgol. Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Gymru ym 1967, pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, gan gymeryd lle David Watkins. Ffurfiodd bartneriaeth gyda'r mwyaf effeithiol yn hanes y gêm gyda'r mewnwr Gareth Edwards yn y tîm cenedlaethol.

Ymhen blwyddyn yr oedd wedi ei ddewis i deithio gyda'r Llewod Prydeinig i Dde Affrica, ond gorfodwyd ef i ddychwelyd adref ar ôl y gém brawf gyntaf oherwydd anaf. Ym 1971 aeth ar daith eto gyda'r Llewod, y tro hwn i Seland Newydd gyda Carwyn James, yntau yn frodor o Gefneithin, fel hyfforddwr. Enillodd y Llewod y gyfres o gemau prawf 2 - 1, gydag un prawf yn diweddu'n gyfartal, yr unig dro yn eu hanes i'r Llewod ennill cyfres yn Seland Newydd. O'r 48 pwynt a sgoriwyd gan y Llewod dros y pedair gêm, Barry John a sgoriodd 30, a rhoddwyd yr enw "Y Brenin John" iddo gan gyfryngau a chefnogwyr Seland Newydd.

Flwyddyn yn ddiweddarach, cyhoeddodd ei ymddeoliad yn 27 oed ac ar ôl ennill 25 o gapiau i Gymru. Cipiwyd ei le yn nhîm Cymru gan Phil Bennett.[3] Daeth John yn golofnydd a darlledwr, cyn penderfynu tynnu'n ôl yn llwyr o rygbi[1]

Bu farw John, yn 79 oed, yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, gyda’i deulu’n bresennol.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Barry John, un o sêr rygbi mwyaf Cymru, wedi marw yn 79 oed". BBC Cymru Fyw. 2024-02-04. Cyrchwyd 5 Chwefror 2024.
  2. Griffiths, John (1990). British Lions (yn Saesneg). Swindon: Crowood Press. ISBN 1-85223-541-1.
  3. "On This Day: Phil Bennett's First Start at No10" (yn Saesneg). Welsh Rugby Union. 4 Ebrill 2020. Cyrchwyd 15 Mehefin 2022.
  4. "Wales and Lions legend John dies aged 79". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Chwefror 2024.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.