Pro14

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cynghrair Geltaidd)
Y Pro14
Logo'r Gynghrair
Chwaraeon Rygbi'r undeb
Sefydlwyd 2001
Nifer o Dimau 14
Gwledydd Baner Yr Alban Yr Alban
Baner Cymru Cymru
Iwerddon
Baner Yr Eidal Yr Eidal (ers 2010)
Baner De Affrica De Affrica (ers 2017)
Pencampwyr presennol Baner Cymru Sgarlets
Gwefan Swyddogol http://pro14rugby.org
Am y mudiad gwleidyddol, gweler Undeb Celtaidd

Y Pro14, a elwir yn Guinness Pro14 ar hyn o bryd am resymau nawdd, yw'r gystadleuaeth flynyddol ar gyfer tîmau rhanbarthol rygbi'r undeb yr Alban, Yr Eidal, Cymru ac Iwerddon; ers 2017 mae'n gystadleuaeth i rai o dimau rhanbarthol De Affrica hefyd. Cyn i'r Eidal ymuno â'r gystadleuaeth yn 2010, cyfeiriwyd at y gynghrair fel y Gynghrair Geltaidd; rhwng 2010 a chyflwyniad dau dîm o Dde Affrica yn 2017 cyfeiriwyd at y Gynghrair fel y Pro12. Caiff y gynghrair ei hystyried yn un o'r tri chynghrair mwyaf yn Ewrop ynghŷd â Aviva Premiership Lloegr a Top 14 Ffrainc.

Mae pob tymor o'r gynghrair yn dechrau ym mis Medi ac yn para nes mis Mai. Mae'r gynghrair wedi'i rhannu'n 2 gyfadran o 7, gyda phob tîm yn chwarae pob tîm arall yn yr un gyfadran ddwywaith, a phob tîm yn y gyfadran arall unwaith. Caiff dwy gêm ddarbi ychwanegol eu chwarae rhwng tîmau o'r un wlad yn y cyfadrannau gwahanol fel bod pob tîm yn chwarae 21 gem dros flwyddyn, cyn rowndiau terfynol ar ddiwedd y flwyddyn. Bydd y tri tîm gorau ym mhob cyfadran yn chwarae yn y rowndiau terfynol; mi fydd y pedwar saith tîm Ewropeaidd gorau hefyd yn chwarae yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop yn y flwyddyn olynnol. Gall un tîm ychwanegol gael lle yn y gwpan Pencampwyr Ewrop drwy ennill gêm ail-gyfle yn erbyn timau o'r Aviva Premiership neu'r Top14. Bydd y timau Ewropeaidd eraill yn chwarae yn y Cwpan Her.

Tîmau[golygu | golygu cod]

Tîmau presennol[golygu | golygu cod]

Rhanbarthau Cymru yn y Pro14

Cyn-dîmau[golygu | golygu cod]

Hanes[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd y Gynghrair Geltaidd yn 2001, ar ôl cytundeb rhwng Undeb Rygbi'r Alban, Undeb Rygbi Cymru ac Undeb Rygbi Iwerddon i greu cynghrair yn cynnwys naw clwb Cymreig, dau glwb Albanaidd a phedwar talaith Wyddelig. Roedd y clybiau Albanaidd a Chymreig wedi uno'n barod i greu un gynghrair rhwng y ddwy wlad yn nhymorau rygbi 1999 a 2000, ac mae'r cytundeb newydd yn ychwanegu pedwar talaith Wyddelig i'r gynghrair.

2001–2003: Y Blynyddoedd Cyntaf[golygu | golygu cod]

Roedd tymor agoriadol y gynghrair yn cynnwys 15 tîm: 2 glwb o'r Alban (Caeredin a Glasgow), 9 clwb o Gymru (Abertawe, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell Nedd, Glyn Ebwy, Llanelli, Penybont a Phontypridd) a 4 talaith Wyddelig (Connacht, Leinster, Munster ac Ulster). Roedd y tîmau'n chwarae mewn dau grŵp o 7 ac 8. Roedd 4 tîm ar frig y ddau grŵp ar ôl i bob tîm chwarae pob tîm yn ei grŵp unwaith yn chwarae ei gilydd mewn gemau "ergyd derfynol".

Yn y tymor cyntaf, cyrrhaeddodd 3 o'r taleithiau Gwyddelig y rownd gyn-derfynol, a chwaraewyd y rownd derfynol rhwng Leinster a Munster ar gae Lansdowne Road. Enillodd Leinster 24-20 gan ddod yn enillwyr tymor cyntaf y gystadleuaeth.

Ar gyfer ail dymor y gystadleuaeth yn 2002-03, crëwyd tîm Albanaidd newydd (Y Gororau) i godi presenoldeb yr Alban yn y gynghrair ac i sicrhau fod yr un nifer o dîmau yn y ddau grŵp. Ar wahân i hyn, roedd strwythur y gystadleuaeth yn union yr un fath ag yr oedd yn nhymor 2001-02.

Er bod y taleithiau Gwyddelig yn parhau i chwarae'n gryf yn y gynghrair, ni lwyddodd pencampwyr cyntaf y gystadleuaeth, Leinster, gyrraedd rownd yr wyth olaf. Felly, llwyddodd Munster i ennill eu gemau'n gyfforddus, gan ennill yr ornest derfynol yn erbyn Castell Nedd o 37 pwynt i 17 yng Nghaerdydd.

2003–2004: Cymru'n Newid i Ranbarthau[golygu | golygu cod]

Cyn dechrau'r tymor newydd, newidiwyd strwythur rygbi yng Nghymru i ranbarthau'r clybiau, ac felly newidiwyd strwythur y gynghrair. Gyda'r 9 clwb o Gymru'n troi yn 5 rhanbarth (Gleision Caerdydd, Sgarlets Llanelli, Gweilch Tawe-Nedd, Dreigiau Gwent a'r Rhyfelwyr Celtaidd), roedd yn bosib creu cynghrair fwy traddodiadol lle byddai pob tîm yn chwarae ei gilydd dwywaith bob tymor (gartref a bant o gartref) a'r tîm buddugol fyddai'r un ar frig y gynghrair ar ddiwedd y tymor. Roedd y system newydd yn caniatau rhaglen o 22 rownd gyda gemau'n cael eu chwarae ar bob penwythnos.

Oherwydd y fformat newydd, a'r ffaith fod Cwpan y Byd Rygbi 2003 yn achosi colled chwaraewyr rhyngwladol yn ystod nifer o benwythnosau cystadleuol y gynghrair, y tîmau gyda chryfder mewn dyfnder amlygodd eu hunain (ar gyfer un gêm rhwng y Sgarlets a Munster, roedd 25 o chwaraewyr nad oedd ar gael o achos rygbi rhyngwladol). Er hynny, cafwyd diweddglo cyffrous i'r tymor, wrth i'r Sgarlets (a oedd ar frig y tabl) lwyddo i guro Ulster (a oedd yn ail yn y tabl) ar benwythnos olaf y tymor i ennill y gynghrair.

Tymor 2003-04 oedd tymor cyntaf y Cwpan Celtaidd - cystadleuaeth cwpan traddodiadol rhwng y tîmau Celtaidd. Newidiwyd y tymor canlynol fel bod dim ond 8 tîm gorau'r gynghrair yn cymryd rhan ynddo.

2004–2007: Cyfnod Problemus[golygu | golygu cod]

Yn 2004, cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru fod yn amhosib iddynt gynnal 5 tîm rhanbarthol, ac felly diddymwyd y Rhyfelwyr Celtaidd, er iddynt ymddangos fel un o'r rhanbarthau cryfaf a oedd yn cyfrannu nifer o chwaraewyr rhyngwladol yn eu tymor cyntaf. Felly, disgynnodd y nifer o dîmau yn y gynghrair unwaith yn rhagor i 11. Byddai hyn hefyd yn caniatau i bob tîm cael dau benwythnos rhydd yn ystod y calendr 22 penwythnos.

Heb gwpan y byd i dynnu sylw'r tîmau, 2004-05 fyddai tymor pwysicaf hanes byr y gynghrair. Roedd dosraniad chwaraewyr y Rhyfelwyr Celtaidd i'r rhanbarthau eraill yn gyffredinol yn codi ansawdd rygbi'r tîmau Cymraeg. Cyhoeddwyd y byddai llefydd ar gyfer y cwpan Heineken yn cael eu dewis trwy berfformiad yn y Gynghrair Geltaidd. Ni fyddai Connacht yn cael ei labeli fel talaith ddatblygol rhagor gan undeb rygbi Iwerddon. Cyhoeddwyd hefyd y byddai hyfforddwyr Iwerddon yn cael atal chwaraewyr Gwyddelig rhag chwarae yn y Gynghrair Geltaidd ar gyfer sesiynau ymarfer y garfan ryngwladol. Oherwydd hyn, roedd taleithiau fel Leinster a Munster yn aml yn chwarae eu hail dimau ar benwythnosau cyn gemau rhyngwladol ac yn ystod tair wythnos gyntaf y tymor. Er hynny, gorffennodd Munster y tymor yn ail, a Leinster yn drydydd. Y Gweilch oedd pencampwyr 2004-05, a hwn oedd yr ail dymor yn olynol i un o ranbarthau Cymru ennill y gynghrair.

Bu trafodaethau rhwng undebau rygbi Cymru a Lloegr i drefnu Cwpan Eingl-Gymreig yn ystod misoedd cyntaf 2005-06. Oherwydd bod y cwpan newydd hwn yn ymyrryd â rhaglen dymor y Gynghrair Geltaidd (ac yn cymryd lle'r Cwpan Celtaidd), diarddelwyd rhanbarthau Cymru o'r gynghrair gan undebau'r Alban ac Iwerddon ym Mehefin 2005. Dim ond ychydig o fisoedd cyn y tymor newydd, roedd yn edrych fel petai'r gynghrair yn mynd i gael ei aildrefnu i gynnwys 4 tîm Eidaleg i gymryd lle'r rhanbarthau Cymreig. Er hynny, llwyddodd undebau'r gwledydd Celtaidd gyrraedd cytundeb i gadw'r gynghrair yn ei strwythur presennol. Byddai rhanbarthau Cymru yn gorfod chwarae eu gemau lleol yng nghanol wythnos i gadw rhai penwythnosau'n rhydd ar gyfer y Cwpan Eingl-Gymreig.

Er y problemau ynglŷn â threfnu'r gynghrair, roedd tymor 2005-06 yn llwyddiannus o ran maint y torfeydd gan eu bod wedi codi tua 50,000 o gymharu â'r tymor cynt. Yn debyg i dymor 2003-04, penderfynwyd pencampwyr y gynghrair ar benwythnos olaf y tymor. Ar ôl i Leinster guro Caeredin, byddai'n rhaid i Ulster guro'r Gweilch i fod yn bencampwyr. Wrth fynd i mewn i amser anafiadau, roedd y Gweilch ar y blaen. Ond gyda chic ola'r gêm, sgoriwyd gôl adlam gan faswr Ulster David Humphreys i ennill y gêm a'r gynghrair.

Ym mis Mai 2006, cyhoeddwyd y byddai Magners Irish Cider yn noddi'r gynghrair am bum tymor. Er bod Magners yn cael ei frandio'n Bulmers Irish Cider yng Ngweriniaeth Iwerddon, byddai'r gynghrair yn swyddogol yn cael ei alw'n Gynghrair Magners ym mhob un o'r gwledydd Celtaidd.

Ym mis Mawrth 2007, cyhoeddodd Undeb Rygbi yr Alban nad oedd modd cynnal tri rhanbarth, ac felly byddai'n rhaid terfynu rhanbarth Y Gororau ar ddiwedd tymor 2006-07. Roedd yn ymddangos fod problemau ariannol yr undeb yn ei wneud yn amhosib iddynt ariannu'r rhanbarth a chynnal rygbi o ansawdd digon da i gystadlu yn Ewrop. Beirniadwyd y penderfyniad yma yn hallt gan nifer o bobl, yn cynnwys rhanbarthau rygbi Caeredin a Glasgow, a bu cryn dipyn o wrthwynebiad gan gefnogwyr y Gororau. Er ymgeision gan bobl leol i godi arian i gynnal y tîm, terfynnwyd y tîm ar ddiwedd y tymor.

Am y rhan fwyaf o'r tymor, tra-arglwyddiaethwyd y gynghrair gan y tîmau Gwyddelig Leinster ac Ulster. Er hynny, gorffennodd y tymor â thair o ranbarthau Cymru yn y pedwar uchaf ar ôl iddynt ennill nifer o gemau yn olynol yn erbyn eu gwrthwynebwyr agos. Collodd Leinster i'r Gleision ar benwythnos olaf y tymor gan alluogi'r Gweilch i ennill y gynghrair am yr ail dro yn eu hanes drwy guro'r Gororau yn Netherdale. Felly, bu'n dymor da i'r rhanbarthau o Gymru. Dangoswyd fod gan y Gweilch garfan ddigon dawnus a mawr i fedru cystadlu yn rhesymol mewn nifer o gystadlaethau (yn cyrraedd rownd derfynol y Cwpan Eingl-Gymreig yn ogystal ag ennill y Gynghrair Geltaidd), tra bod y Sgarlets a'r Dreigiau wedi bod yn weddol lwyddiannus ym mhencampwriaethau Ewrop, ac felly'n methu canolbwyntio ar y Gynghrair Geltaidd.

2007–2010: Deg Tîm[golygu | golygu cod]

Yn dilyn diddymu'r Gororau, bu'r gynghrair yn gymharol sefydlog (o ran y timau ynddi) am ychydig o flynyddoedd. Enillwyd y gynghrair yn 2007-08 gan Leinster ac yn 2008-09 gan Munster. Hwn oedd blwyddyn ola'r gynghrair fodd bynnag fel cynghrair traddodiadol: o 2009-10 ymlaen cyflwynwyd system o rowndiau terfynol, lle byddai'r 4 tîm uchaf ar ddiwedd y tymor yn cystadlu rownd cyn-derfynol a rownd terfynol i benodi'r pencampwyr. Bwriad hyn oedd creu mwy o gyffro a chynyddu incwm y gynghrair (hwn oedd y system hefyd yng nghynghreiriau Lloegr a Ffrainc). Y Gweilch oedd y tîm cyntaf i ennill o dan y gyfundrefn newydd hon.

2010–2017: Yr Eidal yn Ymuno[golygu | golygu cod]

2009-10 oedd y flwyddyn olaf gyda 10 tîm yn dilyn cyflwyno dau dîm Eidaleg i'r gynghrair ar gyfer 2010-11. Y bwriad oedd y byddai amgylchedd mwy cystadleuol yn gwella canlyniadau tîm cenedlaethol yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Yn dilyn ymuno'r Eidalwyr, newidiwyd enw'r gystadleuaeth i'r Pro12; yn swyddogol fe'i enwyd yn RaboDirect Pro12 ac wedyn y Guinness Pro12 am resymau nawdd. Y timau Eidalaidd gwreiddiol oedd Benetton Treviso, o Treviso yn Venezia, ac Aironi, tîm wedi'i leoli yn Viadana. Diddymwyd Aironi ar ôl un tymor yn unig a'u disodli gan dîm newydd, Zebre, wedi'u lleoli yn Parma.

Parhaodd timau Iwerddon i ddominyddu'r gynghrair yn ystod y cyfnod hwn, gyda Munster yn ennill yn 2010-11, y Gweilch yn ennill yn 2011-12 ac Leinster wedyn yn ennill dwywaith yn olynnol yn 2012-13 a 2013-14. Cafwyd sioc mawr yn 2015-16 pan enillwyd y gynghrair gan Connacht, sef y tîm Gwyddelig mwyaf gwan yn draddodiadol. Golygodd buddigoliaeth Connacht bod pob un tîm o Iwerddon wedi ennill y gynghrair o leiaf unwaith, gan bwysleisio cryfer y Gwyddelod yn y gystadleuaeth ers y dechrau. Fodd bynnag, yn 2014-15 enillwyd y gynghrair gan Glasgow, sef y tîm cyntaf o'r Alban i ennill; ac yn 2016-17 daethpwyd â'r tlws yn ôl i Gymru wrth i'r Sgarlets enill am yr ail dro.

2017–Presennol: De Affrica[golygu | golygu cod]

Ni fu'r Pro12 erioed yn gallu cystadlu'n ariannol gydag uwch cynghreiriau Rygbi Lloegr a Ffrainc, ac er mwyn ceisio cynyddu mwy o incwm cynhaliwyd trafodaethau am gynyddu nifer y timau yn y gynghrair gan wahodd gwledydd eraill i ymuno. Yn dilyn penderfyniad i leihau nifer y timau o Dde Affrica yng nghystadleuaeth Rygbi proffesiynol hemisffêr y de, sef Super Rugby, ymunodd dau dîm o Dde Affrica sef y Cheetahs o Bloemfontein a'r Southern Kings o Port Elizabeth ar gyfer 2017-18. Newidiwyd enw'r gystadleuaeth i'r Pro14 i adlewyrchu maint y gystadleuaeth newydd.

Pencampwyr[golygu | golygu cod]

Cynghrair Geltaidd / Pro12 / Pro14
Tymor Tîmau Enillydd Ail
2001/2002 15 Leinster Munster
2002/2003 16 Munster Castell Nedd
2003/2004 12 Sgarlets Ulster
2004/2005 11 Gweilch Munster
2005/2006 11 Ulster Leinster
2006/2007 11 Gweilch Gleision
2007/2008 10 Leinster Gleision
2008/2009 10 Munster Caeredin
2009/2010 10 Gweilch Leinster
2010/2011 12 Munster Leinster
2011/2012 12 Gweilch Leinster
2012/2013 12 Leinster Ulster
2013/2014 12 Leinster Glasgow
2014/2015 12 Glasgow Munster
2015/2016 12 Connacht Leinster
2016/2017 12 Sgarlets Munster
Cwpan Celtaidd
Tymor Tîmau Enillydd Ail
2003/2004 12 Ulster Caeredin
2004/2005 8 Munster Sgarlets

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]