Parma
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn rhanbarth Emilia-Romagna yn yr Eidal yw Parma.
Mae'n ddinas hynafol lle ceir sawl adeilad hanesyddol yn cynnwys y Duomo (Eglwys Gadeiriol). Fe'i sefydlwyd yn amser Rhufain Hynafol a daeth yn ganolfan ddiwylliannol fawr yn yr Oesoedd Canol. Sefydlwyd Prifysgol Parma yn 1222; un o'r rhai cynharaf yn Ewrop gyfan. Bu gan Dugiaid Parma (a Piacenza) ran fawr yn hanes yr Eidal.
Cynhyrchir caws Parmesan (Parmigiano) yno.
Pobl o Parma [golygu]
Mae pobl adnabyddus o'r ddinas yn cynnwys:
- Giovan Battista Borghesi, arlunydd
- Bertoia, arlunydd
- Arturo Toscanini, arweinydd cerddorfa