Charles Stewart Parnell

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Charles Stewart Parnell

Roedd Charles Stewart Parnell (27 Mehefin 1846 - 6 Hydref 1891) yn arweinydd mudiad cenedlaethol Gwyddelig ac yn un o'r ffigyrau pwysicaf yng ngwleidyddiaeth Iwerddon yn ystod y 19eg ganrif.

Ganed Parnell yn Avondale, Swydd Wicklow, i deulu o sgwieriaid. Yr oedd yn drydydd mab a seithfed plentyn John Henry Parnell (1811-1859) a Delia Stewart (1816-1896), merch i longwr enwog o'r Unol Daleithiau, Commodore Charles Stewart. Gwahanodd ei rieni pan oedd yn chwech oed, a gyrrwyd ef i'r ysgol yn Lloegr, lle roedd yn anhapus. Aeth i Goleg Magdalene, Caergrawnt (1865-9) ac yn 1874 daeth yn Uchel Siryf Wicklow. Y flwyddyn wedyn etholwyd ef i'r senedd fel aelod dros Swydd Meath, dros y Blaid Hunanlywodraeth, Bu'n aelod dros ddinas Cork o 1880 hyd 1891.

Dangosodd Parnell yn fuan ei fod ar adain radicalaidd y blaid, gan gefnogi'r dacteg o amharu ar weithrediadau Tŷ'r Cyffredin. Roedd hyn yn groes i farn cadeirydd y blaid, Isaac Butt. Yn 1877 diswyddwyd Butt ac etholwyd Parnell yn arweinydd yn ei le yn 1880. Yn 1882 newidiodd enw'r blaid i'r Blaid Seneddol Wyddelig ac yn 1884 gwnaeth i aelodau'r blaid ymdynghedu i bleidleisio gyda'i gilydd fel bloc, y tro cyntaf i system chwip gael ei defnyddio. Gwnaeth nifer o newidiadau eraill i wneud y blaid yn fwy effeithiol.

Cafodd y Blaid Seneddol Wyddelig ddylanwad mawr ar wleidyddiaeth Prydain, gyda'r Blaid Ryddfrydol yn aml yn dibynnu ar eu cefnogaeth i barhau mewn grym. Y pris oedd cefnogi hunanlywodraeth i Iwerddon, ac yn 1886 cyflwynodd William Ewart Gladstone fesur ymreolaeth. Ni phasiwyd y mesur gan Dŷ'r Cyffredin oherwydd rhwyg yn y Blaid Ryddfrydol.

Heblaw ymreolaeth, roedd y Blaid Seneddol Wyddelig yn mynnu mesur tir i Iwerddon, ac ar 21 Hydref 1879 etholwyd Parnell yn arlywydd Cynghrair Tir Cenedlaethol Iwerddon. Oherwydd Pwnc y Tir, carcharwyd nifer o arweinwyr y Gynghrair, yn cynnwys John Dillon, Tim Healy, William O'Brien, Willie Redmond a Parnell ei hun.

Carreg fedd Parnell ym mynwent Glasnevin, Dulyn

Pan oedd Parnell ar anterth ei boblogrwydd yn Iwerddon, cododd helynt. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd i'r ffaith ei fod wedi cael tri o blant gyda Katharine O'Shea, gwraig Aelod Seneddol arall, Capten Willie O'Shea. Penderfynodd Gladstone na allai gydweithio gyda'r Blaid Seneddol Wyddelig tra'r oedd Parnell yn parhau yn arweinydd arni. Gwrthododd Parnell ymddiswyddo, a holltodd y blaid, un rhan dan John Redmond yn cefnogi Parnell, a'r rhan arall, fwy o lawer, dan arweiniad John Dillon, yn ei erbyn. Collodd Parnell ei le fel arweinydd.

Priododd Katharine ar 25 Mehefin, 1891 wedi iddi hi a'i gŵr ysgaru. Ar 27 Medi traddododd anerchiad yn Creggs mewn glaw trwm, a chafodd ei daro'n wael o ganlyniad. Bu farw o drawiad y galon yn Brighton. Claddwyd ef ym Mynwent Glasnevin, lle mae llawer o arwyr Iwerddon megis Eamon de Valera, Michael Collins a Daniel O'Connell wedi eu claddu. Ar ei garreg fedd, rhoddwyd un gair: PARNELL.

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Martin
Aelod Seneddol dros Meath
18751880
Olynydd:
Alexander Martin Sullivan
Rhagflaenydd:
William Goulding a
J. P. Roydane
Aelod Seneddol dros Gorc
gyda Maurice Healy

18801891
Olynydd:
Maurice Healy a
Martin Flavin