Swydd Wicklow
Oddi ar Wicipedia
Un o siroedd traddodiadol Iwerddon sy'n gorwedd yng Ngweriniaeth Iwerddon yw Swydd Wicklow (Gwyddeleg Contae Chill Mhantáin; Saesneg County Wicklow). Mae'n rhan o dalaith Leinster. Ei phrif ddinas yw Wicklow (Cill Mhantáin).
Mae'r sir yn adnabyddus am ardal Mynyddoedd Wicklow lle ceir safle hanesyddol Glendalough.
