Mynyddoedd Wicklow
Oddi ar Wicipedia
Mae Mynyddoedd Wicklow (Gwyddeleg:Sléibhte Chill Mhantáin) yn gadwyn o fynyddoedd sydd wedi eu lleoli yn ne-ddwyrain Iwerddon. Maent yn rhedeg o'r gogledd i'r de o Swydd Dulyn trwy Swydd Wicklow cyn dod i ben yn Swydd Wexford. Y mynydd uchaf yn y gadwyn yw Lugnaquilla sydd yn 925m o uchel, ac yr ail fynydd uchaf yw Mullaghcleevaun sydd yn 847m o uchel. Ar ddiwrnod braf gellir gweld copaon Mynyddoedd Wicklow o ucheldir gogledd-orllewin Cymru.
Mae'r rhan fwyaf o'r ucheldir hwn yn gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Mynyddoedd Wicklow. Un o'r canolfannau mwyaf poblogaidd yw Glendalough, lle ceir safle mynachlog Geltaidd gynnar a nodweddir gan ei thyrau crwn main.