Y Blaid Seneddol Wyddelig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Charles Stewart Parnell

Roedd Y Blaid Seneddol Wyddelig (Saesneg:Irish Parliamentary Party (IPP)), a elwid weithiau y Blaid Wyddelig yn blaid a ffurfiwyd yn 1882 gan Charles Stewart Parnell, i gymeryd lle y Cynghrair Hunanlywodraeth fel plaid i genedlaetholwyr Gwyddelig.

Nôd y blaid oedd ennill hunanlywodraeth i Iwerddon o fewn y Deyrnas Gyfunol. Yn Etholiad Cyffredinol 1885, dan arweiniad Parnell, enillasant 86 o seddau yn Nhŷ'r Cyffredin. Roedd y rhain yn cynnwys un sedd yn Lloegr, yn un o seddau Lerpwl. Holltwyd y blaid yn dilyn yr helynt am y berthynas rhwng Parnell a gwraig briod, Kitty O'Shea, yn nechrau'r 1890au, ac yn Etholiad Cyffredinol 1892 roedd dwy blaid yn sefyll, un o blaid Parnell, dan arweiniad John Redmond, ac un yn ei erbyn dan arweiniad John Dillon. Yn dilyn Etholiad Cyffredinol 1910, roedd y blaid, dan arweiniad John Redmond, mewn sefyllfa gref, gan fod y Blaid Ryddfrydol yn dibynnu ar eu pleidleisiau i barhau mewn grym. Cyflwynwyd mesur hunanlywodraeth i Iwerddon, ond dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 cyn iddo ddod yn weithredol.

Newidiwyd gwleidyddiaeth Iwerddon yn sylweddol gan yr adwaith i Wrthryfel y Pasg yn 1916. Yn Etholiad Cyffredinol 1918, collodd y Blaid Seneddol Wyddelig bron y cyfan o'u seddau i Sinn Fein, oedd yn galw am annibyniaeth llwyr yn hytrach na hunanlywodraeth.

Arweinwyr y Blaid, 1882-1921[golygu]