Britheg Glanville

Oddi ar Wicipedia
Melitaea cinxia
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Nymphalidae
Genws: Melitaea
Rhywogaeth: M. cinxia
Enw deuenwol
Melitaea cinxia
(Linnaeus, 1758)

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw britheg Glanville, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy brithegion Glanville; yr enw Saesneg yw Glanville Fritillary, a'r enw gwyddonol yw Melitaea cinxia.[1][2] Mae i'w gael yng nghanol a de Ewrop a rhannau o Asia a Gogledd Affrica. Dim ond ar arfordir Ynys Wyth y mae i'w chael yng ngwledydd Prydain, er fod olion iddi fyw mor bell i'r gogledd â Swydd Lincoln yn y 19g. Daw ei enw o enw yr Arglwyddes Eleanor Glanville, naturiaethwraig o'r 17fed a'r 18g o Swydd Lincoln.

Yn flynyddol, gwelir gostyngiad yn y niferoedd. Ceir un genhedlaeth yn unig ac mae'n gaeafgysgu fel siani flewog. Ei phrif fwy ydy Plantago a Veronica.

Ochr isaf

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae britheg Glanville yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.