Brenhinllys
| Brenhinllys | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
| Urdd: | Lamiales |
| Teulu: | Lamiaceae |
| Genws: | Ocimum |
| Rhywogaeth: | O. basilicum |
| Enw deuenwol | |
| Ocimum basilicum L. |
|
Perlysieuyn yw Brenhinllys (neu ar lafar ac yn Saesneg: Basil; Lladin: Ocimum basilicum) a ddefnyddir i roi blas ar fwyd, ac sy'n un o deulu mawr y mintys, sy'n ffynnu drwy dde-ddwyrain Asia, Thailand, Fietnam yn ogystal ag Iran ac India ble mae wedi cael ei gynaeafu ers 5,000 o flynyddoedd. Mae'r brenhinllys pêr ('Sweet basil') yn wahanol ac yn cael ei ddefnyddio mewn ceginau yn yr Eidal a gweddill Ewrop.
Tarddiad y gair 'Basil' yw'r Roeg βασιλεύς (basileus) sy'n golygu 'Brenin'; a gwelir y cysylltiad Cymraeg ar unwaith.
Cynnwys |
[golygu] Planhigyn cynorthwyol
(Sa: Companion plant) Mae'r Brenhinllys yn cael ei blannu'n aml nid yn unig i'w fwyta ond fel planhigyn cynorthwyol sy'n cael ei blannu gyda phlanhigion Tomato[1] gan ei fod yn wych am gadw'r pry gwyn draw.[2]
[golygu] Rhinweddau meddygol
Caiff brenhinllys ei ddefnyddio gan rai i drin cramp yn y cyllau, taflu i fyny, rhwymedd, gordyndra a chur pen. [3]
Ceir llu o anhwylderau sy'n cael eu trin gan frenhinllys ac yn eu plith y mae: blinder meddwl, asma a chlefyd y siwgr. </ref> gan ei fod yn wych am gadw'r pry gwyn draw.[4]