Brecwast
Brecwast, neu weithiau borefwyd, yw pryd o fwyd sy'n rhagflaenu cino canol dydd neu cinio ac fel arfer yn cael ei fwyta yn y bore.
Cynnwys |
Brecwastau nodweddiadol yn ôl rhanbarthau'r byd [golygu]
Ynysoedd Prydain ac Iwerddon [golygu]
Mae powliad o uwd yn boblogaidd o hyd yn yr Alban.
Yn Iwerddon, gall brecwast Gwyddelig gynnwys pwdin gwyn, bara soda, ac yn Ulster, farlau soda a farlau tatws.
Ffrainc [golygu]
Nid yw brecwast yn bryd o fwyd pwysig yn Ffrainc. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn bodloni ar bowliad mawr o goffi ffres cryf (neu siocled neu te), yn aml heb lefrith, gyda croissant neu tafell (sleisiad) o fara menyn a siam.
Gwlad Groeg [golygu]
Yng ngogledd Gwlad Groeg caiff pasteiod o'r enw bugatsa eu bwyta efo coffi Groegaidd.
UDA a Chanada [golygu]
Mae crempog ac omlet yn ffordd draddodiadol o gychwyn y dydd mewn rhannau o'r Unol Daleithiau a Chanada.
Diodydd [golygu]
Mae diodydd cyffredin yn cynnwys suddion ffrwyth (Sudd oren, sudd afal, sudd grawnffrwyth, ayyb), llaeth, te, a choffi.
Dathliadau a gwyliau pwysig [golygu]
Yn ystod Ramadan, gelwir Mwslemiaid y pryd ar ol machlud haul sy'n torri'r ympryd yn (Iftar).