Baner Cymuned Cenhedloedd yr Andes

Oddi ar Wicipedia
Flag of the Andean Community of Nations

Mae baner Cymuned Cenhedloedd yr Andes neu baner Cymuned yr Andes (Sbaeneg: Comunidad Andina, CAN yn Sbaeneg) yn faner ar gyfer sefydliad masnachu trawsffinol yn Ne America.

Sefydlwyd y Cymuned Cenhedloedd yr Andes yn 1969 a'r aelodau gwreiddiol oedd, Bolifia, Colombia, Periw ac Ecwador. Bu trafodaethau ar ehangu i gynnwys Tsile a Feneswela. Cafwyd trafodaethau hefyd ar sefydlu cytundeb gyda Mercosur, y gymuned fasnachu ar gyfer Brasil, Wrwgwái, yr Ariannin a Paragwâi.

Y Faner[golygu | golygu cod]

Mae'r faner yn lluman wen gyda logo CAN mewn aur yn y canol.[1] Nid yw'n glir pa mod gyffredin yw'r faner a pha mor gyfredol ydyw, er ceir cyfeiadau iddi oddeutu 2005.[2]

Fel dyluniad mae'r faner yn torri Rheol Tintur a sefydlwyd gan y Cymro Humphrey Lhuyd a luniodd reolau, neu ganllaw, ar gyfer dylunio a defnydd o liw mewn herodraeth, ac, fel estyniad banereg. Nododd Lhuyd "na ddylid rhoi metal ar fetal neu liw ar liw" hynny yw, "meta" yw aur ac arian, neu'r lliwiau melyn a gwyn. Dylid osgoi hyn gan fod y lliwiau'n anodd i'w gweld o bellter. Ceir eithriadau i hyn megis arfbais Jeriwsalem a baner Cyprus.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd Baner Mercosur - y corff masnachu traws-ffiniol arall yn Ne America.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]