Baner Periw

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Periw FIAV 100100.svg
Baner wladwriaethol Periw FIAV 010011.svg

Baner drilliw fertigol gyda stribedi chwith a dde coch a stribed canol gwyn yw baner Periw. Dewisiwyd y lliwiau gan José de San Martín (El Liberador) ar gyfer Lleng Periw; roedd y lliwiau'n cofio Ymerodraeth yr Inca. Llwyddodd San Martín i arwain byddin a enillodd annibyniaeth ar Sbaen yn 1819. Roedd nifer o wahanol ddyluniadau (rhai ohonynt yn cynnwys haul euraidd yn eu canol; cafodd hwn ei dynnu o'r fanner gan Simón Bolívar yn 1824) cyn i'r dyluniad cyfredol gael ei fabwysiadu ar 25 Chwefror, 1825.

Fel baneri eraill y cyn-drefedigaethau Sbaenaidd, gosodir arfbais y wlad yn ei chanol pan defnyddir fel lluman gwladwriaethol neu lyngesol.

[golygu] Ffynonellau

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Flag of Peru.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Periw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill